Ras Gyfnewid Ynys Môn a Gwynedd yn codi dros £30,000 at Cancer Research UK hyd yn hyn!

Digwyddiad 24 awr elusennol cymunedol ym Mangor i godi arian tuag at ymladd canser

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Wynne Roberts - Ras Gyfnewid Ynys Môn a Gwynedd 2024Wynne Roberts
Ras Gyfnewid Ynys Môn a Gwynedd 2024Wynne Roberts
Wynne Roberts - Ras Gyfnewid Ynys Môn a Gwynedd 2024Wynne Roberts
Ras Gyfnewid Ynys Môn a Gwynedd 2024Dani Schlick

Heddiw, bu teuluoedd, ffrindiau a goroeswyr canser yn cymryd rhan yn Ras Gyfnewid Ynys Môn a Gwynedd ar Drac Athletau Treborth, Prifysgol Bangor i godi arian tuag at ymladd canser.

Dechreuodd y timoedd ar daith gyfnewid am hanner dydd (dydd Sadwrn) gydag aelodau’r tîm yn cymryd eu tro i gerdded o amgylch y trac athletau am 24 awr.

Hyd yn hyn, mae Ras Gyfnewid Ynys Môn a Gwynedd wedi codi £32,849 ar gyfer elusen Cancer Research UK.

Bu nifer helaeth o deuluoedd a ffrindiau yn ymuno yn yr Ŵyl ysbrydoledig heddiw, yn cefnogi’r timoedd a’r goroeswyr canser. Yn arwain y dydd oedd y cyflwynydd o Radio Ysbyty Gwynedd, Paul Hughes. 

Yn cymryd rhan fel un o’r goroeswyr canser oedd y Parchedig Wynne Roberts, sydd hefyd yn cyflwyno ar Radio Ysbyty Gwynedd ac yn cael ei adnabod fel yr Elvis Cymraeg poblogaidd. Dywedodd Wynne “Fel goroeswr canser, mae’n anrhydedd i fod yma heddiw. Rydym yn dathlu’r goroeswyr ac yma i godi arian tuag at Cancer Research UK fel gall fwy o bobl ymladd canser yn y dyfodol. Rydym hefyd yn dathlu bywyd heddiw trwy gael hwyl”.

Fuodd Dani Schlick o BangorFelin360 yn rhan o’r digwyddiad, i sgwrsio gyda’n cymunedau a siarad am ein gwefan fro.

Os hoffech chi gyfrannu tuag at Ras Gyfnewid Ynys Môn a Gwynedd, cliciwch yma ar gyfer eu tudalen JustGiving.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

Grŵp Facebook Ras Gyfnewid Ynys Môn a Gwynedd.