Dydd Llun y Golch: YesCymru yn golchi dillad budron Sansteffan

Bu grwpiau lleol YesCymru yn tynnu sylw Bangor at sut mae Sansteffan yn neud ffyliaid allan o Gymry

Jac Jolly
gan Jac Jolly
ymgyrchwyr YC

Ymgyrchwyr YesCaernarfon yn ynmuno a YesBangor

Y llinyn

Dillad Budron Sansteffan i’w weld yn cyhoeddus ar Stryd Fawr Bangor

DSDYG

Pamffled 10 Ffaith YesCymru

DSDYG

Pamffeld 10 Ffaith YesCymru

YYG

Pamffled Ystad y Goron

Bu grwpiau lleol YesCymru yn ymgyrchu ar stryd fawr Bangor ar ddydd Llun y Pasg, yn tynnu sylw at sut mae Sansteffan yn cymryd Cymru fel ffyliaid. YesBangor ac YesCaernarfon bu allan yn rhoi llinyn sychu dillad i fynnu Ger y cloc, er mwyn denu sylw at ddillad budron Sansteffan.

Cafodd 5 erthygl ei atodi i ddarnau o ddillad a’i hongian ar y llinyn i’r cyhoedd cael weld, yn canolbwyntio’n flaenorol ar:

  • Cyfyngiadau
  • ar yr hawl i brotestio
  • Partygate
  • Llygredd Cytundebau Covid Llywodraeth Lloegr
  • Yr argyfwng costau byw
  • Gwaredu ar garthion mewn afonydd ac yr arfordir

Bu’r ymgyrchwyr hefyd yn dosbarthu taflennu sydd yn ceisio gwaredu ar fythiau a Chamsyniadau ynglŷn ag annibyniaeth- e.e. Ein bod ni’n rhy fach yn i allu fforddio annibyniaeth. Dosbarthwyd hefyd pamffledu yn ymwneud efo pwnc llosg diweddar, sef Ystâd y Goron. Mae Ystâd y Goron yn berchen ar diroedd yma’n Gymru- gan gynnwys gwely’r Môr. Mae’r arian sydd yn cael ei gynhyrchu gan Ystâd y Goron yn mynd yn syth i’r Goron yn Lloegr ac i’r Trysorlys- arian sydd werth £603 Miliwn. Mae yna alwadau diweddar i ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru, fel ei fod ym mherchnogaeth y Cymry; fel sydd gan yr Alban.

Mae YesCymru wedi ymgyrchu llawer dros y ddwy flynedd diwethaf i ddatganoli ystâd y Goron i Gymru, a bydd yna dau ddiwrnod o weithredu ac ymgyrchu yn digwydd ar hyd a lled Cymru wythnos nesaf, ar y 13eg a’r 14eg o Ebrill. Mi fydd YesCaernarfon yn cynnal sesiwn Baneru ar Bontydd ar Bont yr Aber sydd yn croesi’r Afon Seiont yng Nghaernarfon ar y 13eg o Ebrill am 10yb hyd at 12yb; mae yna groeso mawr i bawb, ac mae’r grŵp yn annog ar gefnogwyr i fynychu a dod a baneru efo nhw. Mi fydd digwyddiad tebyg yn cael ei drefnu efo YesBangor ar gyfer y dyddiadau yna hefyd.