Deian a Loli y hedfan i lwyfan Bangor

Yr efeilliaid direidus yn camu i fyd theatr byw am y tro cyntaf erioed.

Frân Wen
gan Frân Wen

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y gyfres deledu, mae Deian a Loli yn camu i fyd theatr byw am y tro cyntaf erioed.

Mae Y Ribidirew Olaf yn digwydd ar ddiwrnod cynta’r efeilliaid yn yr ysgol uwchradd ond dydi Loli ddim eisiau mynd. Ar ben hynny mae goriadau’r car ar goll ac mae Loli’n mynnu mai eu ffrind dychmygol sydd wedi eu cuddio.

Does dim amdani ond dweud y gair hud – RIBIDIREW! – er mwyn rhewi eu rhieni a mynd ar drywydd y ffrind dychmygol.

Mae’r sioe wedi ei ddatblygu i’r llwyfan gan dîm craidd y gyfres deledu wreiddiol sef Manon Wyn Jones fel Dramodydd a Angharad Elen fel Cynhyrchydd Creadigol.

Perfformiadau amseroedd ysgol:
30 Ebrill 10am + 1pm
1 Mai 10am + 1pm
2 Mai 10am + 1pm
3 Mai 10am*

Perfformiadau gyda’r nos neu penwythnos
3 Mai 6pm*
4 Mai 11am + 2pm

*Perfformiadau BSL a Sain Disgrifiad Cymraeg

Tocynnau
https://www.pontio.co.uk/online/article/24Deian

Dweud eich dweud