gan
Ar Goedd
Eleni, mae gan Ŵyl y Felinheli ddillad newydd sbon i ddathlu’r ŵyl a’r pentra!
Mae’r crysau-t a’r hwdis yn berffaith ar gyfer plant ac oedolion, ac mae digon o ddewis o liwiau a meintiau. Mae’r nwyddau’n cael eu creu gan y cwmni lleol Peris and Corr, ac mae’r dillad yn 100% cotwm, sy’n gyfforddus ac o’r ansawdd gorau posibl.
Mae gofyn ichi archebu o flaen llaw, a byddwn yn cysylltu er mwyn trefnu i chi gasglu, neu gallwn ddanfon yn lleol. Rydan ni’n edrych ymlaen at weld y dillad lliwgar yn dod â chydig o fwrlwm i’r pentra a’r ŵyl!
Mae’n rhaid ichi archebu cyn 16 Gorffennaf, ac mae’r ddolen yn fan hyn.
Diolch am eich cefnogaeth!