Band sydd wedi derbyn cefnogaeth gan BBC Radio 1 – band nu-metal Cymraeg o Fangor C E L A V I ar frig Siart Amgen 2024 BBC Radio Cymru!
“CELAVI – remember that name” – Nels Hylton, ‘Future ‘Alternative’ ar BBC Radio 1
Mae band nu-metal o Fangor C E L A V I yn dathlu ar ôl cyrraedd rhif 1 yn ‘Siart Amgen 2024’ Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru, gyda’u cân nu-metal ‘COFIA’R ENW’.
“Y peth mwyaf swnllyd i ddod o Ogledd Cymru, mae ‘COFIA’R ENW’ gan C E L A V I yn ffyrnig, unapologetic ac yn uchel. Mae’n annog y gwrandawr i fod yn awthentig, i fod yn chi, ac i’ch atgoffa chi nad oes rhaid i chi fod yr un peth â phawb arall. Dilynwch eich breuddwyd chi, dim ots am be mae pawb arall yn ei feddwl. Does dim rhaid ffitio mewn.
Mae ‘COFIA’R ENW’ hefyd wedi cael ei gefnogi gan BBC Introducing Rock ar BBC Radio 1, BBC Introducing in Wales ar BBC Radio Wales a gafodd ei ddewis fel ‘Tracboeth’ ar BBC Radio Cymru. Dewiswyd y gân hefyd gan arbenigwyr Amazon Music ar gyfer Rhestr Chwarae Golygyddol ‘Breakthrough Rock’ Amazon Music.
Gafodd y gân ei ysbrydoli ar ôl gwylio rhaglen ddogfen am y dylunydd ffasiwn, Vivienne Westwood. Gafodd hi ddylanwad mawr ar ddod â ffasiwn pync. Er gwaethaf rhywfaint o feirniadaeth, a hyd yn oed pobl yn chwerthin am ei phen, parhaodd i weithio’n galed a chanolbwyntio ar ei nod.
Dywedodd Gwion “Rydym mor ddiolchgar i bawb a bleidleisiodd dros ‘COFIA’R ENW! Mae’n gyflawniad mor anhygoel i ni, gyda chân mor bwysig i ni. Mae’r gân yn adlais o’n gwerthoedd o hybu hunanwerth, a bod yn chi’ch hun, beth bynnag yw barn unrhyw un arall. Mae cyrraedd rhif 1 yn y siart eiconig hwn yn golygu cymaint i ni, ac yn emosiynol iawn!”
Mae’r naws ’main character energy’, a’r negeseuon hunanwerth, ynghyd â’r rhwystredigaeth o geisio sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn cael eu hadlewyrchu yn fideo cerddoriaeth C E L A V I ar gyfer ‘COFIA’R ENW’. Cafodd y deuawd cyllid tuag at gynhyrchu eu fideo cerddoriaeth, mewn cydweithrediad â PYST (gwasanaeth dosbarthu cerddoriaeth a labelu i artistiaid yng Nghymru) x LŴP (fideos cerddoriaeth Gymraeg yn adlewyrchu’r sîn gerddoriaeth Gymraeg amrywiol).
Y syniad tu ôl i’r fideo oedd cael menywod ysbrydoledig a chryf i weithio gyda’i gilydd i greu’r fideo, i rymuso menywod eraill. Bu’r ddeuawd yn gweithio gyda’r artistiaid a’r gwneuthurwyr ffilm Ffion Pritchard ac Eleri Parry ar fideo ‘COFIA’R ENW’. Gwyliwch y fideo yma.
Ymddangosodd C E L A V I yn rhestr Nation Cymru o flwyddyn eithriadol i ferched ym myd cerddoriaeth Gymraeg yn 2024.
Bu’r deuawd yn perfformio yn y lleoliadau eiconig yn Llundain Cart + Horses (man geni Iron Maiden) a REPTILE Club yn 229 yn ddiweddar, ac maent wedi sicrhau slot yn cefnogi’r band metal amgen o’r Deyrnas Unedig, Defences ar Ddydd Gŵyl Dewi yng Nghlwb Roc Fuel, Caerdydd. Tocynnau ar gael yma.
Rhyddhaodd y deuawd nu-metal eu EP newydd ‘ANIMA’ ar Galan Gaeaf, wedi ei gynhyrchu gan y cynhyrchydd a enwebwyd gan Grammy, Romesh Dodangoda (Bring Me The Horizon, Motörhead, Holding Absence), a fideos cerddoriaeth gan Loki Films (Slipknot, Sleep Token, Limp Bizkit, Lorna Shore), wedi ei gefnogi gan Help Musicians.
Mae C E L A V I’n barod i barhau i ffrwydro’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig gyda’u perfformiadau ffyrnig a theilwng o circle-pit yn 2025.
Gallwch wrando eto ar Siart Amgen 2024 Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru yma.
Am ragor o wybodaeth: www.wearecelavi.com