Radio Ysbyty Gwynedd ar gael nawr ar Alexa!

Mae’r orsaf sydd wedi bod yn darlledu i gleifion ers 1976 nawr ar gael ar ddyfais Amazon!

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Radio Ysbyty Gwynedd ar AlexaRoger Richards
Radio Ysbyty Gwynedd

Mae gorsaf radio ysbyty lleol Radio Ysbyty Gwynedd wedi datblygu allbwn ei gorsaf a nawr gall gwrandawyr fwynhau rhaglenni’r orsaf ar Alexa!

Mae’r orsaf, sydd wedi bod yn darlledu i gleifion ers 1976, nawr ar gael ar ddyfais Amazon drwy ofyn i Alexa ‘Play Bangor Hospital Radio’.

Mae Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd wrth ei fodd gyda datblygiad diweddar yr orsaf “Mae’n wych bod ein gorsaf bellach ar gael ar Alexa. Mae gennym ni gymaint o raglenni gwych ar Radio Ysbyty Gwynedd ac mae’n bwysig i ni fel gorsaf wneud ein rhaglenni hyd yn oed yn fwy hygyrch i’n gwrandawyr. Mae gennym gleifion yn gwrando yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, a gwrandawyr yn ein cymuned ehangach a hyd yn oed ymhellach, cyn belled ag Awstralia. Rydym yn gysylltiad pwysig i gleifion a staff Ysbyty Gwynedd, yn ogystal â ffrindiau a theulu, a hefyd cefnogwyr ein gorsaf yn y gymuned. Mae Cymraeg Alexa yn wych hefyd – unwaith i chi ofyn i Alexa ‘Play Bangor Hospital Radio’, mae Alexa yn ateb gyda ‘Radio Ysbyty Gwynedd’ yn berffaith!”

Mae Radio Ysbyty Gwynedd ar gael nawr ar Alexa – gofynnwch i Alexa ‘Play Bangor Hospital Radio’.

Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com, ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd a hefyd ar Alexa.

Cafodd Radio Ysbyty Gwynedd ei enwi’n ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ y DU gan y Gymdeithas Darlledu Ysbytai ac enillodd hefyd y wobr ‘Efydd’ am ‘Orsaf Ddigidol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Radio Cymunedol 2022.

Mae’r orsaf yn mynd o nerth i nerth – yn gweithio ar raglenni elusennol arbennig i dynnu sylw at waith gwerthfawr elusennau lleol a chenedlaethol, a nifer o ddarllediadau allanol yn cefnogi digwyddiadau gwych gan gynnwys Gŵyl Gerdd Pier Garth Bangor 2023, Balchder Gogledd Cymru 2023, Relay For Life 2023 a Phenblwydd 75 y GIG. Mae Radio Ysbyty Gwynedd yn edrych ymlaen at ddarlledu yn fyw o Ŵyl Haf Bangor ar y 19eg o Awst.