Felin yn croesawu’r ’Steddfod

Bydd baneri’r Ŵyl yn aros yn eu lle

Gŵyl y Felinheli
gan Gŵyl y Felinheli

Mae pwyllgor Gŵyl y Felinheli wedi cyhoeddi heddiw y bydd bynting coch, gwyn a gwyrdd yr ŵyl yn aros yn eu lle er mwyn croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r sir!

Ers blynyddoedd mae’r bynting yn cael eu codi ar hyd y pentref er mwyn croesawu Gŵyl y Felinheli. Â’r Ŵyl wedi dod i ben ers dydd Sadwrn, fel arfer byddai’r Pwyllgor wrthi’n tynnu’r baneri i lawr.

Ond ‘leni bydd y bynting yn aros yn eu lle fel rhan o ymdrech y pentref i harddu’r ardal er mwyn croesawu pobl o Gymru benbaladr (a phellach) i’r ardal.

Mae’r pentra’n rhan o ardal ehangach yr Eisteddfod, ac ym mis Mehefin cyhoeddwyd bod Pwyllgor Apêl y Felinheli ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 wedi rhagori ar eu targed o £5,000 i gasglu £6,141 at yr achos.

Mi welwn ni chi ym Moduan!