Darbi fawr Ardal Goriad

Bangor 1876 yn llwyddo yn y mwd

gan Gwilym John

Cynghrair “Ardal FitLock Gogledd Orllewin”

Felin 0 Bangor 1876 2

Roedd y cae mewn cyflwr da iawn tua 2:00 pm. Ond wedi dwyawr o law di-ddiwedd, roedd cae Seilo wedi troi yn gors erbyn i’r chwaraewyr gyrraedd tua 5:30 pm a dechrau cynhesu cyn y gêm. Bu hen fforchio a brwshio dwr, ac ar un adeg bu rhaid defnyddio mop i drio symud y dwr o ardal y gôl!

Rhywsut neu gilydd, cytunodd y reff i fynd ymlaen gyda’r gêm, efo’r ddau reolwr yn cytuno. Roedd y tywydd yn ofnadwy, a’r cae yn byllau dwr a mwd drosto.

Rhaid canmol y ddau dîm am geisio chwarae o dan ffasiwn amgylchiadau. Roedd y peldroed yn eithaf safonol, a chafodd y dyrfa o ryw 170 adloniant reit dda. Crowd rhyfeddol o ystyried y tywydd, ond fasa hi yn agosach i 300 be byddai’r elfennau wedi bod yn fwy ffafriol.

Chwaraeodd Bangor yn slic ac yn gyflym, ond brwydrodd Felin yn galed ac yn creu cyfleon eu hunain. Roedd hi’n 2-0 i’r ymwelwyr ar yr hanner, dwy gôl wedi eu cymeryd yn dda gan Liam Morris ar ol 22 munud, a wedyn Corrig McGonigle deuddeg munud yn ddiweddarach.

Roedd yr ail hanner yr un mor gystadleuol, gyda’r ddau dîm yn dod yn agos i sgorio. Ond ni fu mwy o goliau, gyad Bangor yn falch o gael buddugoliaeth, a chadw eu gobeithion am ddyrchafiad yn fyw. Aros yn y gynghrair ydi’r nod  i Felin, ond chwarae fel hyn eto yn y dair gêm sydd yn weddill a fydd ’na ddim problem. Dwy gêm gartref i ddod yn erbyn Penarlag (Hawarden Rangers) a Rhostyllen (y ddau yn is na Felin yn y tabl), ac oddicartref yn Llanrwst nos Fercher nesaf 19eg.

Bydd Bangor yn gobeithio bydd Dinbych a Rhyl1879 yn baglu, gyda siawns reit dda o gyrraedd y “playoff”, ond nad ennill y gynghrair pe byddai Dinbych yn methu ennill eu gemau mewn llaw. Bydd ymweliad Dinbych â Rhyl yfory (15ed) yn ddiddorol.

Gweler uchod am gwpwl o gyfleon Felin.