Band nu-metal o Fangor CELAVI ar BBC Radio 1 am y pedwerydd tro’n olynol!

‘BITE MY TONGUE’ yn cael ei chwarae heno!

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
CELAVI - BBC Radio 1

Bydd y band metal | nu-metal | goth | nu-emo CELAVI yn dychwelyd i donnau awyr BBC Radio 1 heno am y pedwerydd tro’n olynol.

Mae’r gân ‘BITE MY TONGUE’ wedi cael ei ddewis gan Alyx Holcombe i’w gael ei chwarae eto ar BBC Introducing Rock gydag Alyx Holcombe ar BBC Radio 1.

Mae Alyx Holcombe yn chwarae caneuon roc newydd orau o dan y radar o BBC Introducing ar ei sioe radio.

Cafodd ‘BITE MY TONGUE’ ei ryddhau 27ain o Hydref ar y label recordiau annibynnol ac mae’r trac eisoes wedi cael cefnogaeth gan Alyx Holcombe ar ‘BBC Introducing Rock’ ar Radio 1, Adam Walton ar ‘BBC Introducing in Wales’ a Mirain Iwerydd ar BBC Radio Cymru.

Mae ‘BITE MY TONGUE’ oddi ar EP newydd CELAVI, sydd yn cael ei ryddhau yn 2024 (wedi’i chefnogi gan Help Musicians).

Mae ‘BITE MY TONGUE’ hefyd wedi ei chynnwys hefyd ar restr chwarae golygyddol ‘Breakthrough Rock’ Amazon Music.

CELAVI ydi Sarah a Gwion. Daw’r ddeuawd ffyrnig o Fangor, Gogledd Cymru, gyda’u sŵn anthemig ac unigryw nu-metal, sy’n chwalu’r ffiniau gyda’u ddylanwadau fetal, goth, diwydiannol, electro a roc. Maent yn galw eu hunain yn nu-emo.

Gallwch wrando ar ‘BITE MY TONGUE’ gan CELAVI heno ar BBC Introducing Rock gydag Alyx Holcombe ar BBC Radio 1 yma: https://www.bbc.co.uk/programmes/m001sjlm neu ar BBC Sounds. 

Gwyliwch fideo CELAVI ar gyfer ‘BITE MY TONGUE’ yma: https://bit.ly/3Fbc9w6.

Yn ogystal, mae BBC Introducing in Wales, BBC 6 Music, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru wedi cefnogi CELAVI, gyda BBC Radio Cymru yn disgrifio’r band fel y peth mwyaf swnllyd i ddod o Ogledd Cymru!

Gyda miliynau o ffrydiau yn rhyngwladol, a chydnabyddiaeth gan rai o’r rhestrau chwarae golygyddol mwyaf yn eu maes, mae CELAVI yn arwain y ffordd gyda’u sŵn awthentig!

Cadwch lygad ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol CELAVI am fwy o newyddion cyffrous yn fuan!

Am ragor o wybodaeth: musicbymeraki@gmail.com neu www.wearecelavi.com.