Wythnos o weithgareddau cyffrous ar stondin Prifysgol Bangor yn y ’Steddfod

Cafwyd wythnos gyffrous iawn ar stondin Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos ddiwethaf

gan Catrin Elain Roberts
stondin-bangor-1
stondin-bangor-4
stondin-bangor-3
stondin-bangor-6
stondin-bangor-8
stondin-bangor-9
stondin-bangor-5
stondin-bangor-10

Ar ddydd Sadwrn y 30ain o Orffennaf, perfformiodd Alis Glyn, disgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, ar stondin Prifysgol Bangor. Mae yn ei helfen yn cyfansoddi a pherfformio ei gwaith ac eisoes eleni mae wedi perfformio yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon, Eisteddfod yr Urdd ac yn Sesiwn Fawr Dolgellau. Roedd y perfformiad yma ar stondin y Brifysgol yn rhan o’r prosiect rhwng Clwb Ifor Bach a’r Eisteddfod Genedlaethol, ‘Merched yn Gwneud Miwsig’, sy’n annog merched i gyfansoddi a pherfformio.

Cafwyd y drafodaeth banel ‘Deall Dementia’ ar ddydd Llun y 1af o Awst. Trefnwyd y sgwrs hon gan Dr Catrin Hedd Jones a bu cyfle i drafod adnoddau a all fod o gymorth; ymgyrch Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i greu eglwysi sy’n deall dementia; a thrafodaeth am y gyfrol Datod (Gwasg y Lolfa) gyda Beti George a Dyfrig Rees.

Yn y prynhawn, bu sesiwn yng nghwmni’r enillwyr BAFTA a graddedigion o Brifysgol Bangor, Lindsay Walker ac Enlli Fychan Owain. Roedd cyfle i weld eu ffilm arobryn, The Welshman, ac i ofyn cwestiynau am y ffilm. Hanes dyn ifanc angerddol yw’r ffilm sy’n teimlo’n rhwystredig oherwydd y bwriad i adeiladu cronfa ddŵr i wasanaethu diwydiant Glannau Merswy, nes o’r diwedd iddo benderfynu gweithredu wrth i’r gwaith adeiladu fygwth y gymuned fynyddig fechan.

Yn ogystal, cafwyd cyflwyniad i gyfrol newydd y darlithydd, awdur a dramodydd, Dr Gareth Evans-Jones, Cylchu Cymru: Crwydro Cymru Rithiol, sy’n archwilio Cymru drwy luniau a llenyddiaeth.

Ar ddydd Mawrth yr 2il o Awst bu trafodaeth banel ‘Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn?’. Bu cyfres podlediadau Ysgol y Gwyddorau Addysgol – Am Blant – yn trafod gwahanol agweddau ar fywydau plant a phobl ifanc yn 2022. Yn y sesiwn holi yn y recordiad byw hwn o bodlediad olaf y gyfres, bu cyfle i’r gynulleidfa gymryd rhan. Roedd aelodau’r panel yn cynnwys Dr Gwenllian Lansdown Davies (Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin), Carys Edwards (Cyn-bennaeth Drama, Cyfarwyddwr Creadigol a Chynhyrchydd), Elen ap Robert (Cyn-gyfarwyddwr Creadigol Galeri a Phontio, Therapydd Cerdd ac aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru), Dr Mair Edwards (Seicolegydd Clinigol) a’r Cadeirydd, Dr Nia Young (Darlithydd, Ysgol Gwyddorau Addysgol, Prifysgol Bangor). Pwysleisiodd Dr Mair Edwards, “Mae’r celfyddydau yn medru rhoi’r cyfle i bob plentyn deimlo fod ganddyn nhw hawl i fod mewn gofod, yn enwedig gofodau nad ydynt yn gyfarwydd â hwy”.

Roedd cyfle hefyd i’r Eisteddfodwyr eleni glywed am ymchwil arloesol y Labordy Dwyieithrwydd Plant a oedd yn ymchwilio i sgiliau meddwl a datblygiad iaith plant dwyieithog. Roedd yn gyfle gwych i gymryd rhan mewn tasgau ac arbrofion dan arweiniad Dr Eirini Sanoudaki.

Dydd Mercher cafwyd trafodaeth banel arall – ‘Creu, curadu, cydweithio – dod o hyd i gydbwysedd yn y celfyddydau gweledol’. Sgwrs a gweithgaredd grŵp yn adfyfyrio ar y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu ymarferwyr creadigol yng Nghymru heddiw oedd hon. Gyda Manon Awst (artist a chydlynydd mannau cyhoeddus Pontio), Rebecca Hardy-Griffiths (artist a churadur Y Lle Celf 2022), Owen Griffiths (artist ymarfer cymdeithasol yn gweithio gyda chymunedau), a Dylan Huw (awdur a churadur) ar y panel, roedd yn sesiwn ddifyr dros ben.

Y Prifardd Rhys Iorwerth oedd cwisfeistr y cwis llenyddol rhwng adrannau’r Gymraeg prifysgolion Bangor ac Aberystwyth, sef ‘8 Allan o 10 Bardd’. Llongyfarchiadau i griw Bangor am ddod yn fuddugol gyda 57 o bwyntiau! Da iawn hefyd i dîm Aberystwyth am fod yn gystadleuwyr gwych a derbyn 45 o bwyntiau.

Lansiwyd Ysgrifau ar Lên a Hanes Powys gan Enid Pierce Roberts (Gwasg y Bwthyn) gyda’r Athro Gruffydd Aled Williams ar y stondin dydd Mercher. Roedd yn gyfle arbennig i ddathlu cyhoeddi casgliad o ysgrifau gan un o gyn-ddarlithwyr Adran y Gymraeg.

Yn y prynhawn, ail-groesawyd Aduniad Cyn-fyfyrwyr Bangor i faes yr Eisteddfod! Cyflwynwyd yr aduniad gan yr is-ganghellor, Iwan Davies, a Llywydd UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor), Celt John. Cafwyd cyfle i glywed am ddatblygiadau’r brifysgol dros y 2 flynedd ddiwethaf, ac i gwrdd â chyd-gyn-fyfyrwyr a sgwrsio dros luniaeth ysgafn a pherfformiad arbennig gan Aelwyd JMJ. Ar stondin y Brifysgol, roedd llyfryn lloffion yn cynnwys lluniau o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor gan gynnwys lluniau blynyddol JMJ dros y blynyddoedd.

Roedd hi’n ddiwrnod prysur iawn ar y stondin ar ddydd Iau’r 4ydd o Awst. Yn y bore, rhannodd y Darlithydd Athroniaeth a Chrefydd, Dr Gareth Evans-Jones a Dr Joshua Andrews, Darlithydd Moeseg a Chrefydd, eu hymchwil a bu trafodaeth ar aml-grefyddau Cymru a pha mor amlddiwylliannol ydyn ni mewn gwirionedd yn 2022.

Yng nghwmni ei gyd-ddarlithwyr Tasha Roberts a Lois Nash, bu i Gwilym Owen, Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas drafod y ffyrdd y mae modd gweld dylanwad Harri VIII ar batrymau priodasol uchelwr o Ogledd Cymru. Dechreuodd y sgwrs gyda pherfformiad 15 munud gan Gwyn Owen, sy’n drwmpedwr gyda Band Pres Llareggub – sydd hefyd yn digwydd bod yn fab i Gwilym!

Y drafodaeth banel nesaf oedd ‘Creadigrwydd ac Arloesi yn y Gymru Wledig’ a oedd yn trafod y cyfleoedd a’r rhwystrau yn y Gymru wledig ar gyfer creadigrwydd ac arloesedd. Cafodd y ddadl ddiddorol ei chadeirio gan Pryderi ap Rhisiart, Cyfarwyddwr M-Sparc. Yn ogystal ar y panel, roedd Huw Watkins (Prif Weithredwr Bic Innovations), Andrew Edwards (Dirprwy Is-ganghellor dros y Gymraeg a Chenhadaeth Ddinesig, Prifysgol Bangor), Ieuan Wyn Jones (Cadeirydd, M-Sparc), Dr Edward Jones (Ysgol Busnes Bangor), a Nia Roberts (Cyfarwyddwraig M-Sparc).

Dathlwyd 100 Mlynedd o Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gyda phrynhawn o adloniant a pherfformiadau i nodi’r achlysur gan rai o raddedigion enwocaf y Brifysgol brynhawn dydd Iau.

Roedd y Brifysgol ar ben ei digon yn cael cwmni Gwenan Gibbard, a raddiodd o Brifysgol Bangor ac sy’n astudio doethuriaeth gyda’r Adran Gerddoriaeth ar hyn o bryd. Mae Gwenan yn delynores a chantores amlwg ym myd cerddoriaeth draddodiadol Cymru, ac mae wedi perfformio yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae wedi ennill nifer o gystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae ei dull arloesol o ymdrin â Cherdd Dant wedi cael ei glywed mewn cyngherddau ledled y byd. Ynghyd â’i gwaith unigol, mae Gwenan newydd ryddhau albwm newydd fel aelod o’r grŵp gwerin ‘Pedair’.

Cafwyd hefyd drafodaeth gyda’r hyfforddwraig, cerddor a’r Cymrawd er Anrhydedd, Menai Williams. Fel cyn-fyfyrwraig y Brifysgol, mae Menai hefyd yn un o feirniaid, tiwtoriaid a chyfansoddwyr cerdd fwyaf blaenllaw Cymru, ac wedi bod yn delynores ac yn feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers dros 40 mlynedd. Derbyniodd Radd er Anrhydedd yn ystod Seremonïau Graddio’r Brifysgol fis diwethaf am ei chyfraniad i ddiwylliant, iaith, cerddoriaeth a’r celfyddydau Cymreig.

Diddorol iawn oedd y drafodaeth banel ‘Cerddoriaeth ac Addysg yng Nghymru: Y Dyfodol’. Trafodwyd Gwasanaeth Cerddoriaeth newydd Llywodraeth Cymru, a cherddoriaeth o fewn ac oddi allan i’r cwricwlwm newydd yng nghwmni Mari Pritchard (Cydlynydd Gwasanaeth Cerdd Genedlaethol Cymru), Aled Maddock (Arweinydd/Pennaeth Cynorthwyol Adran Gerdd, Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur) a Meinir Llwyd Roberts, (Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias).

I orffen y diwrnod cafwyd set acwstig gan Osian Huw Williams, canwr a gitarydd amryddawn o’r band Candelas, a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor sydd eisoes wedi gwneud cyfraniad enfawr i gerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru.

Dechreuwyd dydd Gwener y 5ed o Awst gyda Sesiwn Ymwybyddiaeth Ofalgar ‘Cymryd Hoe’ gyda Gwenan Roberts, athrawes ymwybyddiaeth ofalgar a raddiodd gydag MA o Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, Prifysgol Bangor. Yn dilyn myfyrdod dan arweiniad, bu i Gwenan wahodd mynychwyr y sesiwn i gymryd hoe a rhannodd rhywfaint o farddoniaeth i gyd-fynd â’r sesiwn. Mae Gwenan yn athrawes Ymwybyddiaeth Ofalgar brofiadol, ac mae wedi cynnal cyrsiau ar gyfer sefydliadau megis yr Heddlu a Llywodraeth Cymru, ac i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol ychwanegol.

Trafodaeth fywiog ‘O’r Llwyfan I’r Ystafell Ddosbarth’ oedd nesaf. Cafwyd cyfle i wrando ar y myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Rhian-Mair Jones (Cadeirydd), John Ieuan Jones (canwr Opera), Marged Rhys (Plu), Gwen Elin (Cantores), a Lora Lewis (Perfformwraig) yn trafod pleserau a heriau’r byd perfformio a’r byd addysg.

Daeth y diwrnod i ben gyda’r Prynhawn Prosecco! Roedd yn gyfle gwych i sgwrsio a chlywed gan fyfyrwyr presennol UMCB dros wydraid o brosecco. I gloi, cafwyd perfformiad gwych gan Fand Pres Llareggub a digri iawn oedd sesiwn gomedi Gethin Evans hefyd.

Mynegodd Llywydd UMCB, Celt John mai “Anodd yw dewis yr uchafbwynt fwyaf, ond rhaid dweud mai Prynhawn Prosecco UMCB yng nghwmni Band Pres Llareggub sy’n mynd â hi!”. Hoffai ddiolch i bawb a ddaeth i weld y stondin a chyfrannu at y sesiynau yn ystod yr wythnos.

Fuoch chi’n ymweld â’r stondin i nôl prosbectws, blasu’r diodydd melys Sudd Cors a sefyll yn y swigen fawr?