Mae bellach rhaglenni teledu poblogaidd fel “Iaith ar Daith” ar gael sy’n dangos siwrna’ pobl sy’n dysgu neu ddechrau dysgu Cymraeg. Digon o adloniant ydy’r rhaglen efo’i chymeriadau difyr ar eu taith o ddysgu iaith y nefoedd. Ond sut mae taith dysgwyr Cymraeg go iawn? Sut maen nhw’n symud ymlaen i groesi’r bont i fod yn siaradwr hyderus un diwrnod?
Gadewch i mi rannu stori fy nhaith at yr iaith efo chi. Ar ôl disgyn mewn cariad â Chymru a’r Gymraeg, mynychu cwrs dysgu Cymraeg dros yr haf oedd y cam cyntaf a manteisio ar bob cyfle i siarad cymaint o Gymraeg â phosibl – neu gyn lleied ag oedd gen i ar y dechrau. Rwyf yn ddigon ffodus fy mod i’n byw mewn ardal Gymraeg iawn lle mae cyfleoedd ymhob man i siarad yr iaith. Help mawr i mi oedd sesiynau Panad a Sgwrs yn y siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon a gweithgareddau eraill i ddysgwyr lle oedd Cymry Cymraeg clên iawn yno i siarad efo ni. Nhw oedd yn allweddol i wneud i fi fentro allan a mynychu digwyddiadau Cymraeg – rhai Cymraeg go iawn!
Ces i brofiadau bythgofiadwy efo Côr dros y Bont, côr dysgwyr a Chymry Cymraeg, yn cystadlu mewn Eisteddfodau lleol ac ar lwyfan y Genedlaethol. Heb sôn am fod yn aelod o gôr Eisteddfod Ynys Môn yn 2017!
7 mlynedd ymlaen, rwyf bellach yn rhedeg sesiynau sgwrsio i ddysgwyr fy hun bob yn ail nos Fercher yn y Tap & Spile, yn trefnu digwyddiadau ac yn gweithio i Fentrau Iaith Cymru sy’n creu cyfleoedd i bobl siarad Cymraeg – i siaradwyr hen a newydd.
Ar fy nhaith hyd yn hyn, beth sy’ wedi fy helpu i fwyaf? Pobl oedd yn glên iawn ac yn ddigon amyneddgar i siarad efo fi. Siarad sy’n allweddol wrth ddysgu iaith. Mae llawer o ddysgwyr o gwmpas sy’n awyddus i siarad Cymraeg. Beth am rannu eich iaith efo nhw i’w helpu? Popeth sydd angen ei wneud ydy siarad eich mamiaith – ar y stryd, mewn gig, mewn gwyliau, dros y ffens efo’r cymdogion. Mae cyfleoedd di-ri’!
Neu trwy ymuno â chynlluniau fel cynllun SIARAD gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae SIARAD yn paru dysgwr a siaradwr profiadol iddyn nhw gyfarfod am uchafswm o 10 awr dros gyfnod o rai wythnosau neu fisoedd. Cewch fynd i’r caffi, i gig, mynd am dro neu beth bynnag sy’n apelio. Os oes gennych chi ddiddordeb, mae mwy o wybodaeth ar wefan y Ganolfan Siarad | Dysgu Cymraeg. Neu e-bostiwch b.l.glyn@bangor.ac.uk ac audra.roberts@bangor.ac.uk
Ac mae’ch Menter iaith leol yn gwybod am gyfleoedd i helpu dysgwyr. Menter Iaith Bangor a Hunaniaith sydd yma i helpu yng Ngwynedd.
Dowch i’n helpu ni! Mae pob gair yn cyfrif.