Oriel Ffotograffau a Chyfweliad gyda Hanna Baguley, Carwyn Rhys Jones a Richard Jones 

Os na chawsoch chi gyfle i weld gwaith arbennig y ffotograffwyr yn eu harddangosfa yn Storiel yn ddiweddar, dyma gyfle i chi edmygu eu lluniau a dysgu am waith ac ysbrydoliaeth y tri.

gan Catrin Elain Roberts
ElinCatrinNewydd-3
TalYBontTreeMWSRGB-3
Bio2020-3
Nant-Ffrancon-1-2
Maen-y-Gaseg-1

Gwych oedd arddangosfa ffotograffiaeth Hanna Baguley, Carwyn Rhys Jones a Richard Jones, gan fod pob ffotograffydd gyda ffocws unigol a chyswllt dwfn â’r syniad o berthyn, prydferthwch a swyn eu mamwlad.

Bu i’r tri gystadlu ar raglen ‘Yn y Ffrâm’ S4C ym mis Ionawr, lle ‘roedd gofyn i’r artistiaid dynnu lluniau ar gyfer heriau a thasgau amrywiol i blesio’r beirniaid profiadol, sef y ffotograffwyr Huw Talfryn Walters a Marian Delyth. Hanna fu’n fuddugol, felly braf oedd gweld ei gwaith hi, yn ogystal â gwaith arbennig Carwyn a Richard yn y cnawd yn Storiel.

‘Swyno’ yw thema casgliad Hanna a mynegodd, “I mi, mae creu darn o gelf yn broses o greu delwedd sydd yn cynrychioli eiliad mewn amser. O oedran ifanc, cefais fy swyno gan ryfeddodau Cymru; o’r awyr dywyll a’r tirweddau mwyaf anhygoel i’r mythau, y chwedlau a’r straeon sydd wedi’u plethu trwy genedlaethau di-rif.”

Caiff Hanna ei hysbrydoli’n fawr gan y rhain, ac mae’n gobeithio bod ei gwaith “yn ennyn atgof, teimlad neu feddwl ohonynt” i’r rhai sy’n edrych ar ei delweddau. Wrth drafod lleoliadau’r ffotograffau yn y casgliad hwn, nododd bod y lluniau “wedi eu tynnu mewn amryw o leoliadau ar draws Gogledd Cymru. O’r Stryd Fawr ym Mangor i draeth Lleiniog ar Ynys Môn”.

Hudolus yw’r ffotograff ‘Nefol’ o Eglwys Sant Cwyfan ger Aberffraw sy’n edrych yn brydferth a chlyd gyda’r sêr yn pefrio uwchben. Effeithiol yw’r cyferbyniad rhwng tawelwch y blaenlun lle nad oes yr un creadur i’w weld â phrysurdeb y goleuadau’n disgleirio’n y pellter ar y tir mawr. Mae’r llun ‘Llewyrch’ o fioymoleuedd dŵr y môr ym Mhenmon fel hud a lledrith gyda machlud godidog tu cefn i’r goleudy adnabyddus.

‘Harddwch’ yw thema Carwyn a mynegodd, “dwi wedi ceisio cyfleu’r hanes a’r harddwch – y gerwinder a’i llymder fel yn nhirwedd y chwarel.” Mae’r casgliad du a gwyn yn cyfleu’r hanes chwarelyddol yn wych gan bwysleisio llwydni a dwyster chwarel Dinorwig. “Dwi wastad yn teimlo bod dogfennu ardal yn ddu a gwyn yn deud stori yn well. Mae tynnu lluniau chwarel llechi wastad yn edrych yn gry’ yn ddu a gwyn”, meddai Carwyn.

Rhes o adfeilion tai’r chwarelwyr yw’r ffotograff ‘Harddwch’ sy’n cyfleu naws fregus, gyda changhennau coed yn troelli o’u cwmpas, yr unig arwydd o fywyd sydd yno erbyn hyn. Difyr yw’r llun ‘Cenhedlaeth’ gan ei fod o bersbectif unigolyn sy’n sefyll yn y chwarel yn edrych allan ar y caeau heddychlon o’u blaenau. Mae’r gyferbyniaeth rhwng yr ardal ddiwydiannol ag ôl difrod â’r caeau naturiol heb eu difetha yn hynod ingol.

Gobaith Carwyn yw y bydd ei ffotograffau’n ysbrydoli eraill i ddeall a gwerthfawrogi harddwch yr ardal. Eglurodd fod y chwareli’n golygu gymaint iddo gan fod yr ardal “yn perthyn i ni gyd ac maent yn rhan fawr o’n treftadaeth ni yng Nghymru.”

‘Perthyn’ yw thema casgliad Richard a dywed fod ei luniau’n cyfleu’r teimlad o berthyn a gaiff wrth fyw yn yr ardal ryfeddol hon. Mae naws naturiol ond bywiog i’r ffotograff ‘Maen y Gaseg’ gydag adfail unig mewn ardal fynyddig gyda’r gwair o’i gwmpas wedi tyfu’n wyllt. Mae cyferbyniaeth bwerus rhwng llonyddwch yr hen fwthyn a gwylltineb y dirwedd.

Nododd Richard, “Perthynas â thirwedd, hen hanes, gwlad a phobl, a theimlad mai “yma ‘rwyf innau i fod” yw hon, ac mae treigl y tymhorau a’r newid dyddiol yn y goleuni yn ysbrydoliaeth gyson.” Prif thema ei ffotograffau yw’r “Synnwyr o berthyn yn agos i’r fro ac i’r tir”.

Prydferth dros ben yw ‘Dinas Dinlle’ gyda silwét tywyll o fynyddoedd yr Eifl, y Gyrn Goch a’r Gyrn Ddu yn gyferbyniad dwys gyda’r awyr a’r tywod euraidd. Amlwg yw’r thema llonyddwch gyda’r môr tawel ac amlinelliad o ddau berson yn crwydro’n heddychlon ar y traeth. “Mae’r darn bach yma o Gymru yn bwysig ryfeddol i mi; gobeithio bod y delweddau hyn yn cyfleu hanfod y berthynas â’r fangre brydferth hon”, mynegodd.

Cyfweliad gyda’r ffotograffwyr:

Y Casgliad yn Storiel-

 1. Beth oedd prif ffocws eich casgliad a pham?

Hanna Baguley – “Roeddwn eisiau creu casgliad o waith oedd yn ennyn atgof, teimlad neu feddwl o mythau, chwedlau a’r straeon sydd wedi’u plethu trwy’r cenedlaethau yng Nghymru”.

Carwyn Rhys Jones – “Mi wnes i ddewis chwarel Dinorwig gan fod yna gymaint o hanes a threftadaeth yno. Rwyf yn teimlo mod i yn dogfennu hanes pan fyddaf yn y chwarel”.

Richard Jones – “Mae diddordeb mawr gen i mewn hanes lleol a hanes ardal y chwareli. Dwi wrth fy modd yn tynnu lluniau bythynod y chwarelwyr – mae amryw ohonynt yn adfeilion bellach”.

 2. Pa gamera y gwnaethoch chi ddefnyddio i dynnu’r lluniau sydd yn Storiel?

HB – “Yr rwyf yn defnyddio dau gamera – canon EOS 6D Mark II ac hefyd Camera Canon EOS R”.

CRJ – “Mi wnes ddefnyddio Panasonic G7 fel camera yn y chwarel”.

RJ – “Nikon D300”.

3. Hoff ffotograff o’r casgliad a pham?

HB – “Fy hoff ddelwedd i yw delwedd y ferch fach yn y Stryd Fawr. Roeddwn eisiau creu delwedd oedd yn cynrychioli y genhedlaeth a gollwyd o fewn unigedd y pandemig – sef plentyn yn cael ei gorfodi i fabwysiadu ffordd newydd o fyw tra’n cadw gafael ar ein hen draddodiadau. Rwy’n fam fy hun, ac yn teimlo ymdeimlad cryf tuag at y ddelwedd hon”.

CRJ – “Fy hoff lun o’r gyfres yn bendant yw ‘Harddwch’. Dwi’n teimlo bod y llun yma yn cyfleu’r gyfres yn gry’”.

RJ – “Maen y Gaseg gan ei fod yn cyfleu synnwyr o berthyn yn agos i’r fro ac i’r tir”.

Ffotograffiaeth yn gyffredinol-

1. Ers pryd ydych chi’n tynnu lluniau?

HB – “A dweud y gwir alla i ddim cofio adeg pan nad oeddwn yn tynnu lluniau. Roedd fy Nhad wastad yn rhoi benthyg ei gamera i mi, ond dim ond yn 2018 y gwnes i  gymryd ffotograffiaeth fyny yn iawn”.

CRJ – “Dwi’n tynnu lluniau ers dros ddeg mlynedd erbyn hyn”.

RJ – “Dwi’n tynnu lluniau ers tua 30 mlynedd, ac yn aelod o Glwb Camera Caernarfon ers blynyddoedd.”.

2. Beth wnaeth eich sbarduno chi i ddechrau tynnu lluniau?

HB – “O oedran ifanc, rydw i wedi cael fy swyno gan ryfeddodau fy ngwlad, sef Cymru. O’r awyr dywyll a’r tirweddau mwyaf anhygoel i’r mythau, y chwedlau a’r straeon sydd wedi’u plethu trwy genedlaethau di-rif. Ac ers sawl blwyddyn yr wyf wedi bod wrth fy modd yn dal delweddau o’r hyn drwy fy nghamera”.

CRJ – “Wedi cael fy magu mewn ardal mor hardd â Gwynedd, roedd hi’n anodd iawn peidio cael fy ysbrydoli gan y tirwedd naturiol”.

RJ – “Mi es i ar gwrs hefo Glyn Davies, Porthaethwy i ddysgu sut i ddefnyddio’r camera yn iawn”.

3. Lle yw eich hoff le i fynd i dynnu lluniau?

HB – “Dwi’n hoff iawn o awyr glir y nos, ond does unman wedi curo Ynys Enlli hyd yn hyn. Cefais yr amser mwyaf anhygoel yno y llynedd yn gwylio’r Llwybr Llaethog yn codi uwchben y goleudy, yn gwrando ar y morloi ac yn cadw llygad am adar drycin Manaw. Pâr hwn gydag ychydig o feteors ar gamera a chefais y noson fwyaf anhygoel yn tynnu lluniau awyr y nos”.

CRJ – “Cwestiwn anodd, fyswn i yn gorfod dewis dau, sef chwarel Dinorwig a mynyddoedd Eryri”.

RJ – “Rhai o fy hoff leoliadau yw Pen Llyn, Brynrefail, Maen y Gaseg a Dinas Dinlle”.

4. Pa gamera ydych chi’n hoffi defnyddio fwyaf a pham?

HB – “Mae’r Canon 6D Mark II wedi bod yn dda i mi ers rhai blynyddoedd, ond ar ôl uwchraddio’n ddiweddar i’r Canon EOS R, rwy’n gweld fy mod yn gallu gwthio fy hun ymhellach fel ffotograffydd”.

CRJ – “Fy hoff gamera yw’r Lumix G7, mae o’n gamera mor ysgafn i archwilio mynyddoedd”.

RJ – “Gan fwyaf, rwy’n defnyddio’r Nikon, ond mae gen i gamera bach yn y car bob amser hefyd”.

5. Pam ydych chi’n mwynhau ffotograffiaeth gymaint?

HB – “Mae ffotograffiaeth wedi bod, a bydd bob amser yn lwybr ar gyfer fy nghreadigrwydd. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd mae o wedi agor y drysau i gymaint mwy na hynny. Rwyf wedi cyfarfod ag amrywiaeth o bobl anhygoel ac wedi ymweld â lleoedd syfrdanol i chwilio am y llun perffaith, ac rwy’n credu’n gryf mai dyma sydd wedi tanio fy nghariad at ffotograffiaeth”.

CRJ – “Dwi’n teimlo bod ffotograffiaeth yn ffordd dda o bortreadu straeon ac o ddogfennu bywyd”.

RJ – “Dwi’n cael pleser rhyfeddol o dynnu lluniau a rhannu’r delweddau”.

Mi wnes fwynhau’r arddangosfa’n fawr gan fod y lluniau oll yn adrodd straeon unigryw. Fel rhywun sy’n mwynhau ffotograffiaeth, bu i’r arddangosfa hon fy ysbrydoli i geisio ymlwybro tu hwnt i’r muriau a herio fy hun wrth dynnu lluniau.

Os na chawsoch chi gyfle i weld yr arddangosfa a oedd yn Storiel tan Awst yr 20fed, mwynhewch yr oriel luniau o ddelweddau’r ffotograffwyr talentog uchod.