gan
Gwilym John
Cynhaliwyd gwyl beldroed ar gae yr ysgol yn Y Felinheli ddydd Sul, gyda Llyr Ifans yn reffio y gemau i gyd! O 8:00 y bore tan 8:00 y nos!
Bu gemau i pob oedran, o’r rhai lleiaf dan 5 i fyny at rhai ddyla wybod yn well, y rhieni a chefnogwyr.
Cafwyd gêm “celebs” hefyd gydag enwogion yn dangos pa mor dda oeddan nhw, yn cynnwys ambell i fardd, actorion, aelodau bandiau, athro (Mr Davies), DJ (Kev Bach) ac eraill. Da iawn oeddan nhw hefyd.
Daeth pethau i ben tua 8 pm gyda “penalti shwt-owt” yn y tywyllwch.
Diwrnod hapus a gwych iawn, a diolch i’r trefnwyr ac i bawb gymerodd ran. Cafwyd lot o hwyl a chodwyd arian da iawn er mwyn cynnal y clwb peldroed ieuenctid am dymor arall.