Nos Sul diwethaf, Tachwedd 27, roedd Neuadd Pritchard Jones dan ei sang ar gyfer cyngerdd gwefreiddiol i ddathlu canmlwyddiant Adran Gerdd y Brifysgol wedi ei drefnu a’i arwain gan y Cyfarwyddwr Cerdd dawnus presennol sef Gwyn L Williams.
Yn cymryd rhan roedd tri chôr sef Cantorion Menai, Corws y Brifysgol a Chôr Y Gadeirlan, Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol ynghyd â thri unawdydd medrus sef Sioned Terry (soprano), Robyn Lyn Evans (Tenor) a Jeffrey Williams (Bariton).
Yn ystod yr hanner cyntaf cafwyd darnau o weithiau 4 cerddor a fu’n gweithio yn yr adran Gerdd. Yn gyntaf chwaraeodd Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol ddarn meistrolgar John Hywel, “Rondo for Orchestra”. Yna cafwyd unawdau swynol o waith E T Davies – Ynys y Plant a ganwyd gan Sioned Terry, Dilys Elwyn-Edwards – Cloths of Heaven wedi ei ddehongli gan Jeffrey Williams a Mae Hiraeth yn y Mor gyda Robin Lyn yn perfformio. Gorffennwyd yr hanner cyntaf gyda datganiad teimladwy gan Gantorion Menai a Chorws y Brifysgol o “Yr Arglwydd yw fy Mugail” gan Caradog Roberts.
Yn yr ail hanner aeth y tri chôr i’r afael gyda darn heriol William Mathias, “This Worlde’s Joie”, sef darn a oedd yn adlewyrchu’r tymhorau a rhychwant y bywyd dynol….ac yn ddathliad o fywyd. Dyma’r tro cyntaf i’r gwaith hwn gael ei berfformio ym Mhrifysgol Bangor er iddo deithio’r byd. Ymateb un aelod gwybodus o’r gynulleidfa oedd ei bod yn gerddoriaeth wahanol iawn i’r hyn yr arferid ei chlywed yn y Brifysgol.
Cafwyd ymateb twymgalon gan y gynulleidfa i’r cyngerdd yn gyffredinol gyda un yn dweud “y byddai’n rhaid talu pris da am y fath berfformiad yn Llundain”, un arall yn dweud “bod sain gwych gan y côr yn Salm 23”, ac un arall “ei bod yn noson arbennig iawn”. Cafodd y cor ifanc soniarus o’r Gadeirlan gymeradwyaeth arbennig ar y diwedd.
Clo teilwng i’r dathliadau.