Cyflwynydd Radio Ysbyty Gwynedd ar daith elusennol i Normandi!

Terry T a’i ffrindiau’n codi arian i Glefyd Motor Niwron

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths

Mae un o gyflwynwyr Radio Ysbyty Gwynedd ym Mangor Terry T, a’i griw o ffrindiau, yn teithio o Borthaethwy i Normandi yn eu dau gerbyd vintage ar yr 22ain o Fai er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer Clefyd Motor Niwron. Penderfynodd y criw trefnu’r daith elusennol wedi iddynt golli tri pherson agos i’r salwch, gan gynnwys gwraig Terry T, June.

I gyfrannu, dilynwch y linc yma: https://www.justgiving.com/fundraising/terry-thomas22?

Mae Terry T (Terry Thomas) efo rhaglen boblogaidd wythnosol ‘Country, Soul and Rock n Roll’ bob nos Fercher rhwng 8-9pm ar Radio Ysbyty Gwynedd.

Gall cleifion wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd 24 y dydd, efo rhaglenni byw bob dydd, ar sianel 1 yn Ysbyty Gwynedd. Gall gwrandawyr y tu allan i’r Ysbyty gwrando ar-lein ar: www.radioysbytygwynedd.com ac ar ap Radio Ysbyty Gwynedd.

Pob lwc Terry T!