Mae’r Mentrau Iaith yn lansio cystadleuaeth dylunio het bwced fel rhan o’r gweithgareddau sy’n arwain at Gwpan y Byd Pêl-droed. Bydd yr enillydd yn derbyn cyflenwad o hetiau gyda’r dyluniad buddugol ar gyfer y dosbarth cyfan!
Mae’r gystadleuaeth yn agor heddiw, 7fed o Hydref ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 18 oed. Bydd y Mentrau Iaith yn derbyn dyluniadau tan y 26ain o Hydref, 12pm. Bydd y tri beirniad yn trafod y ceisiadau ac yn cyhoeddi’r enillydd ganol mis Tachwedd.
Sioned Dafydd, Geraint Løvgreen a Tim Williams fydd yn beirniadu’r dyluniadau. Mae gan y tri berthynas arbennig â phêl-droed ac maent yn frwdfrydig iawn dros dîm Cymru a chyrraedd Cwpan y Byd yn Catar. Medd Sioned Dafydd sydd yn sylwebydd cyson ar bêl droed Cymru:
“Mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle unigryw i’r person lwcus weld eu dyluniad ar het bwced ei hun! Baswn i wrth fy modd cael creu darlun arbennig – ond dwi’n rhy hen yn anffodus!”
Esbonia Daniela Schlick, Cydlynydd Projectau gyda Mentrau Iaith Cymru
“Er mwyn cystadlu mae templed arbennig i’r gystadleuaeth i’r plant allu mynd ati i ddylunio. Rydym yn gofyn i’r rhieni dynnu llun neu wneud sgan o’r dyluniad a’i anfon atom trwy e- bost at hetbwced2022@mentrauiaith.cymru gan gynnwys enw llawn y plentyn, eu hardal a’r oedran. Mae’r templed, y manylion cyswllt a’r rheolau ar gyfer y gystadleuaeth ar gael ar ein gwefan www.mentrauiaith.cymru, ein cyfryngau cymdeithasol a gan y Mentrau Iaith yn lleol.”
Mae rhai o blant tîm pêl-droed yr Elyrch yn Abertawe wedi rhoi cynnig yn barod ar ddylunio mewn sesiwn gydag Ameer Davies-Rana. Mae Ameer yn esbonio manylion y gystadleuaeth mewn fideo arbennig sydd ar wefan y Mentrau Iaith.
Mae’r Mentrau Iaith yn un o’r partneriaid allweddol yn ymgyrch Bartneriaeth Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru. Bydd mwy o weithgareddau’n cael eu lansio yn yr wythnosau nesaf gan gynnwys sesiynau cerddorol cymunedol, cyfres o furluniau ar draws Cymru ac adnoddau addysgiadol hwyliog.