Cronfa Apêl Eisteddfod ’23

Rhedeg, bwyta cacenni a barddoni dros yr achos

gan Menna Baines

Cwblhaodd rhedwr o Fangor Hanner Marathon Caerdydd mewn 1 awr 58 munud a bydd y Brifwyl yn elwa ar ei gamp. Roedd Bryn Tomos yn codi arian at Gronfa Apêl Bangor, Pentir a Phenrhosgarnedd ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ac mae wedi llwyddo i godi yn agos at £650 o arian nawdd hyd yma. Mae cyfle o hyd i noddi Bryn, a welir yn y llun efo’i wyres Branwen: ewch i www.justgiving.com/crowdfunding/bryn-tomos.

Mae’r gronfa bellach wedi codi dros 75% o’i tharged o £22,500. Codwyd dros £500 mewn bore coffi llwyddiannus iawn yn Berea Newydd ddiwedd Medi. Diolch i bawb a ddaeth draw, ac i’r cogyddion a gyfrannodd ddanteithion bendigedig i’r stondin gacennau!

Ymhlith gweithgareddau eraill fe wnaeth Ysgol Tryfan godi dros £200 ar ddiwrnod heb wisg ysgol cyn gwyliau’r haf, ac mae Gwasanaeth Englynion y Goriad wedi bod yn brysur – mwy am hwnnw eto.

Ac gyfer y Dyddiadur, bydd Côr Glanaethwy yn cynnal cyngerdd er budd y gronfa yn Eglwys Pentir ar Dachwedd 13. Bydd mwy o fanylion ar gael yn fuan: cadwch olwg ar dudalen Facebook y gronfa.

 Dymuna’r pwyllgor ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefnogi a chyfrannu hyd yma.