Blog Byw: Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych

Y diweddariadau o’r maes

gan Catrin Elain Roberts

Y diweddariadau o’r maes ar ddydd Sadwrn yr Eisteddfod.

15:00

Llongyfarchiadau mawr i Cai Fôn Davies am dderbyn yr 2il wobr yn y gystadleuaeth Cyflwyniad Dramatig Unigol 19-25 oed yn ogystal â’r 2il wobr am y gystadleuaeth Unawd allan o Sioe Gerdd 19-25.

14:05

Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Glanaethwy am ddod yn 3ydd yn y gystadleuaeth Detholiad o Ddrama Gerdd Blwyddyn 7 a dan 25 oed.

13:45

Da iawn i Ensemble Lleisiol Aelwyd JMJ am dderbyn yr 2il wobr yn y gystadleuaeth Ensemble Lleisiol 14-25 oed.

13:41

Llongyfarchiadau mawr i Cai Fôn Davies am ddod yn 1af yn y gystadleuaeth Cyflwyno Alaw Werin Unigol 19-25 oed.

13:15

Côr S.A.T.B. Aelwyd JMJ yn ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth Côr S.A.T.B. 14-25 oed (Aelwyd) ym mhabell Prifysgol Bangor.

13:13

Côr Meibion Aelwyd JMJ yn ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth Côr Meibion Tri Llais 14-25 oed (Aelwyd) ym mhabell Prifysgol Bangor.

13:10

Ensemble Lleisiol JMJ yn perfformio ‘Tŷ ar y Mynydd’ yn wych ar lwyfan y Pafiliwn Gwyn.

13:08

Ensemble Lleisiol Aelwyd JMJ yn ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth Ensemble Lleisiol 14-25 oed ym mhabell Prifysgol Bangor.