Band o Fangor ar restr chwarae Amazon Music!

Band metal CELAVI yn cael eu hychwanegu i restr chwarae ‘Best New Bands’ gan Amazon Music

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
CELAVI 2022Carwyn Owen Photography

CELAVI

CELAVI-NIGHTMARE

Gwaith Celf: CELAVI – NIGHTMARE

CELAVI-Amazon-Music-Best-NewAmazon Music

CELAVI – Best New Bands

Roedd CELAVI wrth eu boddau clywed eu cân ‘TEMPEST’ ar BBC Radio 6 Music ar y rhaglen ‘The BBC Introducing Mixtape’ yn ddiweddar a nawr, mae eu cân newydd ‘NIGHTMARE’ wedi cael ei ychwanegu i restr fawreddog ‘Best New Bands’ gan Amazon Music. 

Dywedodd Gwion o CELAVI “Da ni wrth ein boddau bod arbenigwyr o Amazon Music wedi curadu rhestr chwarae gyda bandiau maen nhw’n ystyried y gorau yn y DU. Mae ein cân ddiweddaraf ar restr olygyddol enfawr, dim ond 48 cân arall sydd ar y rhestr. Mae hyn yn meddwl y byd i ni. Da ni’n hapus iawn ac mor ddiolchgar am y gydnabyddiaeth!”

Yn ogystal â chefnogaeth ddiweddar gan BBC Introducing ar BBC 6 Music, mae CELAVI wedi derbyn cefnogaeth reolaidd gan BBC Introducing ar Radio Wales.

Mae CELAVI wedi bod yn recordiau traciau newydd gyda’r cynhyrchydd roc a metal uchel ei barch Romesh Dodangoda. Gyda chefnogaeth gan Gorwelion 2022, bydd eu cân newydd anferth gyda Romesh yn cael ei ryddhau’n fuan!

Ydych chi’n barod am rywbeth gwahanol?

I glywed y rhestr chwarae ‘Best New Bands’: bit.ly/3gGUN1C

Am ragor o wybodaeth:

Gwefan | Facebook | Twitter | Instagram | Spotify