gan
Daniela Schlick
Aeth Geraint Percy Jones a Menter Iaith Bangor â dysgwyr Cymraeg o gwmpas Bangor am daith gerdded oedd yn rhan o ymgyrch Medi’r Gymraeg, ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i gefnogi siaradwyr newydd.
Ar ôl cychwyn o Ffordd y Coleg aethon ni i fyny Roman Camp ac yna i lawr am y Pier lle gwnaethon ni orffen efo panad a hufan iâ hyfryd iawn. Diolch yn fawr iawn i Geraint a’i straeon a hanesion difyr dros ben. Gwych bod dan arweiniad gwybodus iawn. Gwnaeth pawb fwynhau’r daith ac roedd llawer o sgwrsio i’w glywed gan bawb.