gan
William Owen
Diwrnod mawr ym Mangor, mae’r Stryd Fawr wedi ailagor am y tro cyntaf er Rhagfyr 2019.
Mae gweithwyr yn dal ar safle’r ddwy siop a losgwyd mewn tân difrifol. Er hynny mae cerbydau yn cael defnyddio’r ffordd a lle i gerdded ar hyd y palmant.
Bu’n gyfnod hir cyn i ddim ddigwydd i’r adeiladau. Ond yn gynharach eleni gosodwyd craen enfawr ar y stryd i ddechrau tynnu’r adeiladau i lawr. O beth i beth bu llwyddiant i gyrraedd y nod.
Mae busnesau’r stryd yn falch iawn fod hyn wedi digwydd. Maen nhw’n gobeithio y bydd hyn yn ailfwyiogi’r Stryd Fawr.