Llên Gwerin Bangor a’r Cyffiniau ar gael rŵan!

Cyhoeddi cyfrol o lên gwerin ardal Bangor.

Goriad
gan Goriad

Mae’r awdur Howard Huws o Fangor newydd gyhoeddi cyfrol “Llên Gwerin Banogr a’r Cyffiniau.”

Dyma ffrwyth oes o wrando a chofnodi llên gwerin gyfoethog y ddinas a’r fro gyfagos, gan gynnwys Dyffryn Ogwen, Pentir, y Felinheli a thu hwnt – gwybodaeth na cheir mohoni yn unlle arall. Hen draddodiadau am ddewiniaid ac ysbrydion, arferion bywyd beunyddiol, llysenwau, ofergoelion, meddyginiaethau, ac atebion i gwestiynau fel: pam na ddylid anelu bys at y lleuad? O ba brennau mae gwneud arch? Pwy oedd Meri Fflamingo a Robin Ddu? Pam aeth Lloyd George o dan y ddaear? Beth yw pren lladd? Pwy welodd y ci bwgan, a pham ddylid bwyta llygoden?

Nid rhywbeth sy’n perthyn i gefn gwlad ac i’r gorffennol yn unig yw llên gwerin: mae’n rhywbeth sy’n fyw ac yn esblygu. Eto, hawdd y gall fynd i’w cholli hefyd, oni bai bod rhywun yn ei chofnodi. Mae cynhysgaeth traddodiadau Cymru’n frithwaith hyfryd ac amryliw, a dyma ychwanegu darn arall at y darlun cyfan.

Dylai’r gyfrol fod yn y siopau llyfrau’n fuan, ond gellir archebu’n uniongyrchol gan Howard o yrru at cyfarchiad@yahoo.co.uk. Ei phris yw £10.

Mynhewch y darllen!

1 sylw

Mererid
Mererid

Edrych ymlaen i gael copi

Mae’r sylwadau wedi cau.