Chwaraewyd timoedd ieuenctid Clwb Hoci Bangor mewn twrnament ym Mhwllheli y penwythnos diwethaf gyda lot o berfformiadau calonogol gan sêr ifanc y clwb.
Yn y gystadleuaeth Dan 10, roedd dau dîm o Fangor yn cymryd rhan, tra roedd un tîm yn cystadlu yn y categori Dan 14.
Adroddiad Tîm Dan 10 A
Allan o saith gem, fe enillodd y tîm Dan 10 A dwy, colli dwy, a gem gyfartal mewn tair, wrth i’r tîm lwyddo i sgorio 16 gol yn ystod y gystadleuaeth.
Imogen Brotherton oedd prif sgoriwr y tîm, yn llwyddo i sgorio tair gôl yn erbyn Pwllheli B.
Tyfodd hyder y chwaraewyr yn ystod y twrnamaint, gydag Isla Yearsley, Lexie Dutton ac Imogen Brotherton yn creu symudiadau hyfryd.
Yn ogystal, fe ddangosodd y triawd Aatreya Vikram, Olivia Brotherton ac Ananya sgiliau amddiffynnol cadarn gyda llawer o daclau pwysig. Ar y cyfan, roedd hwn yn ddiwrnod llwyddiannus i’r tîm dan 10, ac un a ddaeth a gwen ar wynebau’r hyfforddwyr.
Adroddiad Tîm Dan 10 B
Chwaraeodd tîm Dan 10 B saith gem hefyd, gan ennill un, cholli tair a sicrhau gem gyfartal mewn tair.
Cododd lefel hyder y tîm wrth i’r diwrnod fynd yn ei blaen, gyda’r tîm yn lledaenu’r bêl a gwneud rhediadau ymosodol yn fwyfwy.
Chwaraeodd Rosie a Lili yn wych yng nghanol y cae, tra bod Flynn a Mabon wedi cyd-weithio yn effeithiol yn yr amddiffyn.
Yn ogystal, roedd Llio a Siriol yn llawn egni yn chwarae ar hyd y cae. Pob clod i’r holl chwaraewyr am eu hymdrechion.
Adroddiad Tîm Dan 14
Cafwyd y tîm Dan 14 diwrnod i’w gofio, wrth iddyn nhw ennill pum gem allan o bump.
Roedd digon i’w fwynhau ym mherfformiadau’r tîm; rhediadau gwych gan Oli wrth ymosod; taclo a blocio gwych gan Ifan, Izzy ac Abbie yn yr amddiffyn; rhediadau diflino gan Lara, Amelie ac Ellie ar yr esgyll; a sgiliau gwych yng nghanol y cae gan Sïon a Carwyn.
Diolch mawr hefyd i Izzy ac Ellie o Glwb Hoci Dysynni am eu help. Diolch hefyd i Rhys am hyfforddi’r tîm yn ystod y dydd.
Dyma ganlyniadau’r diwrnod:
(Gêm 1) v Caernarfon B 2-0 (Oli x2)
(Gêm 2) v Caernarfon A 2-0 (Sion x2)
(Gêm 3) v Pwllheli A 3-0 (Oli, Carwyn x2)
(Gêm 4) vs Pwllheli B 2-1 (Sion, Amelie)
(Gêm 5) vs Eirias 1-0 (Carwyn)