Daeth tîm hoci dynion Bangor adref o Lerpwl gyda thriphwynt gwerthfawr ar ôl buddugoliaeth wych o ddwy gôl i un oddi cartref yn erbyn ail dim West Darby.
Fe ddechreuodd y tîm cartref ar y droed flaen, ond fel oedd y stori ar gyfer gweddill y prynhawn, roedd amddiffyn Bangor yn gadarn, ac ar ôl dipyn, fe ddechreuodd yr ymwelwyr i hawlio meddiant dros eu hunain.
Ac wedi 10 munud, fe aeth Bangor ar y blaen wrth i Will Hall sgubo’r bel heibio’r golwr ar ôl rhediad a phas wych gan Flynn Holt.
Roedd y gôl yn hwb i hyder Bangor, ac fe ddaeth y capten Paul McCallum yn agos iawn i ddyblu’r fantais dwywaith, oni bai am arbediadau da gan y golwr.
Ond yn yr 18fed munud, fe lwyddodd Bangor i rwydo’r ail, ar ôl i Will Hall gipio’r meddiant yn ‘D’ y tîm cartref a gwthio’r bel yn gelfyd o dan y golwr.
Cafwyd y ddau dîm cyfleoedd pellach yn yr hanner gyntaf, gyda golwr Bangor Keith Proudlove yn gwneud ambell i arbediad gwych, ond fe ddaliodd y gleision ar eu mantais erbyn hanner amser.
Roedd Bangor yn chwarae gyda phasio slic ar ôl er egwyl, wrth i’r tîm cartref dyfu yn fwy rhwystredig. Daeth Paul McCallum a Seff Drew yn agos at ymestyn at y fantais, cyn un cyfnod gwallog lle cafwyd Bangor pedwar ergyd yn olynol gan Flynn Holt, Tom Wale, Tom Hughes a Vasishk Patil – ond rhywsut, cafodd pob ymdrech eu harbed gan y golwr prysur.
Fe lwyddodd y tîm cartref i greu ambell i gyfle da, ond roedd yr amddiffyn o Rhys Culley, Harry Collins-Jones, Ash Hardaker a Patrick Wright yn gwneud tacl ar ôl tacl i’w cadw nhw allan.
Gyda dau funud i fynd, fe sgoriodd West Darby o gornel gosb ac fe wthiodd y cartref am ail gol i unioni’r sgôr, ond o dan bwysau mawr, fe lwyddodd Bangor i gadw’r bel yn effeithiol a dal ymlaen ar fuddugoliaeth gwbl haeddiannol.
Wedi i siom canlyniad y penwythnos diwethaf yn erbyn Northern, roedd y perfformiad a’r canlyniad y penwythnos yma yn destun foddhad mawr i’r Dinasyddion.
Does dim gêm penwythnos nesaf, ond mi fydd Bangor yn chwarae nesaf yn erbyn ail dim Kirby, am 2.15yh ar ddydd Sadwrn 30 Hydref, ar gae astorturf Canolfan Brailsford.