Mae Côr dros y Bont wedi dod at ei gilydd i gymdeithasu a chanu am y tro cyntaf ers mis Mawrth llynedd. Roedd pawb mor hapus i weld pawb ac wrth gwrs i ganu fel côr eto. Ac fel mae pob dim yn wahanol y dyddiau ’ma, roedd y lleoliad ychydig yn wahanol i’r arfer. Y polytunnel sy’n rhan o gaffi Blas Lôn Las ar Fferm Moelyci oedd yr ystafell ymarfer – nid yn y capel fel yr oedd hi ers talwm (wel, 18 mis yn ôl). Profiad gwahanol a phleserus tu hwnt! Diolch i gaffi Blas Lôn Las am adael i ni ddefnyddio’r lle!
Mae Côr dros y Bont yn canu ers dros 15 mlynedd fel côr dysgwyr Cymraeg dan arweiniad Elwyn Hughes. Nid dysgwyr yn unig sy’n canu yno, mae rhai aelodau’n Gymry Cymraeg clên iawn sy’n cefnogi’r côr. Roedd y côr yn arfer cyfarfod yng Nghapel Ebeneser, Llanfairpwll a’r aelodau yn dod o ddwy ochr y Bont. Ond maen nhw i gyd yn croesi pont arall – o fod yn ddysgwyr i ddod yn siaradwyr Cymraeg. Mae’r côr felly yn fwy na grŵp sy’n canu efo’i gilydd. Mae’n gyfle i gymdeithasu yn y Gymraeg. A diolch i Elwyn Hughes am ei ymrwymiad amhrisiadwy sy’n cadw’r côr a’r cyfle arbennig i fynd!