Ysgol y Garnedd yn cynnal “trafodaethau aeddfed” ar Ddiwrnod Plant Mewn Angen

“Ryda ni wedi cael trafodaethau aeddfed efo’r adran iau yn enwedig”

Ysgol y Garnedd

Mae Ann Gash, Dirprwy Bennaeth Ysgol y Garnedd, wedi dweud wrth golwg360 bod yr ysgol wedi cynnal “trafodaethau aeddfed” gyda’i disgyblion ar Ddiwrnod Plant Mewn Angen.

Daw hyn wrth i blant ysgol ar hyd a lled y wlad gasglu arian at achos da.

“Mae hi wedi bod yn ddiwrnod gwych, er yn ychydig o sialens i stopio’r plant ifancaf rhag cysgu gan eu bod nhw’n gwisgo pyjamas,” meddai Ann Gash, Dirprwy Bennaeth Ysgol y Garnedd wrth golwg360.

“Rydan ni wedi bod yn gwneud amryw o weithgareddau fel ysgol.

“Mae’r plant wedi bod yn llunio Pudsey ar y buarth ac yna rhoi ceiniogau i lenwi hwyneb Pudsey.

“Maen nhw hefyd wedi gwneud yr her rhedeg 2021

“Mae yno gynnwrf yma a mwynhad pur.

“Ryda ni hefyd wedi rhoi gwersi iddyn nhw yn sôn am elusennau allweddol sy’n helpu plant llai ffodus na nhw a sôn am yr heriau amrywiol megis eich bod chi’n anabl, neu yn ofalwr sy’n gofalu am rywun yn y tŷ.

“Ryda ni wedi cael trafodaethau aeddfed efo’r adran iau yn enwedig bod o dan yr hwyl ei bod ni’n eu hatgoffa nhw pam bod diwrnod Plant Mewn Angen yn bodoli.”