Eisteddfod Felin: Cymreigio’r pentra

Mae’r trefnwyr yn gobeithio gadael gwaddol

gan Osian Owen
472818804_122192218310249116

Mae Eisteddfod y Felinheli, a fydd yn digwydd ar 1 Chwefror am y tro cyntaf ers hanner canrif, yn gobeithio gadael gwaddol ar ei hôl.

Mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd rhoi’r cyfle i berfformio ar lwyfan drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi ymdeimlad o falchder i rai o bobl ifanc y pentra. Yn ogystal â hynny, mae cystadlaethau fel ‘Ysgrifennu cân am y Felinheli’ yn cael eu hychwanegu yn y gobaith y bydd yn meithrin balchder yn y pentref ei hun hefyd.

Ond mae’r trefnwyr wedi cynnwys ambell gystadleuaeth arbennig gyda’r bwriad penodol o gymreigio’r pentra hefyd. Yn eu plith mae cystadleuaeth Tlws yr Dysgwr.  Mae’r gystadlaeuaeth yn gofyn i ddysgwyr ysgrifennu proffil ohonyn nhw eu hunain ar gyfer Goriad a BangorFelin360, a’r gobaith yw annog dysgwyr ar eu taith iaith.

Mae ’na griw o ddysgwyr yn cwrdd yn fisol yn y Felinheli bellach, a hynny dan faner ‘Give Welsh a Go’, partneriaeth rhwng Llofft a Gŵyl y Felinheli. Mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg mewn lleoliad anffurfiol, waeth ble maen nhw ar eu siwrne ieithyddol.

Cystadleuaeth arall sy’n bwriadu gadael ei hôl ar y pentra yw’r Gystadleuaeth Cyfieithu. Mae’r darn gosod yn ddarn gan fusnes lleol sydd ddim yn gwneud defnydd o’r Gymraeg ar eu gwefan ar hyn o bryd, ac fe hoffai’r pwyllgor ddiolch yn fawr iawn i Goriad am noddi’r gystadleuaeth hon.

Mae dyddiad cau’r ddwy gystadleuaeth yn agosau (18 Ionawr), felly ewch ati ar frys i annog pobl leol i gystadlu!

Dweud eich dweud