Ysgol Ddeintyddol i Fangor?

Mae Siân Gwenllian AS wedi comisiynu arolwg fel rhan o’i hymgyrch dros Ysgol Deintyddiaeth ym Mangor

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
Untitled-design-2024-22T151753

Er mwyn adeiladu’r achos dros Ysgol Deintyddiaeth ym Mangor yn ei hetholaeth, mae’r Aelod o’r Senedd lleol wedi comisiynu arolwg sy’n ceisio deall profiadau a safbwyntiau myfyrwyr deintyddol yng Nghymru.

Mae’r arolwg, sydd wedi’i anelu at gyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol neu ddarpar fyfyrwyr deintyddiaeth, yn gobeithio dysgu mwy am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu myfyrwyr deintyddol, ond mae hefyd yn rhan o ymgyrch hirdymor Siân Gwenllian AS i gael ysgol ddeintyddol yn ei hetholaeth i fynd i’r afael â diffyg gwasanaethau yn lleol. Yn ddiweddar, arweiniodd yr AS ddadl drawsbleidiol ar hyfforddiant deintyddiaeth, ac arweiniodd hyn at y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer deintyddion.

Yn ôl Siân Gwenllian:

“P’un ai ydach chi’n gyn-fyfyriwr deintyddol, yn fyfyriwr deintyddol presennol, neu’n ddarpar ymgeisydd, mae eich barn yn bwysig i ni.

“Roedd ein hymgyrch leol am Ysgol Feddygol ym Mangor yn llwyddiant, a gobeithiwn y bydd canfyddiadau’r arolwg hwn yn cael eu defnyddio i adeiladu’r achos dros Ysgol Deintyddiaeth yn y ddinas.

“Rydan ni hefyd yn gobeithio deall beth sy’n bwysig i fyfyrwyr wrth ddewis ysgol ddeintyddol.

“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n cyfrannu at yr arolwg hwn. Mae eich llais yn bwysig!”

Mae’r arolwg yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau, mae’n gwbl ddienw, ac mae ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.