O’r diwedd, mae’r gwaith o osod y cae “pob tywydd” newydd wedi cychwyn ar dir ysgol Y Felinheli. Daeth y peiriannau mawr i fewn i’r safle ar ddydd Llun, Hydref 21in, ac erbyn diwedd yr wythnos, mae tunelli o bridd wedi cael ei symud, a’r gwaith paratoi ar gyfer gosod cae 2G yn mynd yn ei flaen yn hwylus, diolch yn rhannol i’r tywydd sych.
Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn mis Chwefror nesaf.
Mae sawl ffynhonnell grant wedi cyfrannu at y costau sylweddol gan gynnwys “Grymuso Gwynedd”, gyda Cymdeithas Bel-Droed Cymru yn ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r baich ariannol fel rhan o’u cynlluniau i wella safonnau adnoddau pel-droed ar lawr gwlad. Ac mae’r Ysgol a Chyngor Sir Gwynedd wedi bod yn gefnogol o’r dechrau.
Safydlwyd “Clwb Chwaraeon Seilo” fis Hydref dair blynedd yn ol fel “cwmni drwy warant” er mwyn edrych i fewn i’r posibiliadau. Ac mae llawer o ddiolch i’r pwyllgor o dan arweiniad Huw Ger Watkins am gael y maen i’r wal a gwireddu’r syniad.