Trioleg arloesol yn cynnig profiad theatr newydd ym Mangor

Olion, gan gwmni Fran Wen yn torri tir newydd gan addo profiad rhyngweithiol o gwmpas dinas Bangor.

gan Erin Telford Jones

Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer trioleg Olion, cynhyrchiad diweddaraf cwmni theatr Fran Wen. Mae Olion yn torri tir newydd, gan addo profiad rhyngweithiol a pherfformiadau byw a digidol o gwmpas dinas Bangor.

Y tîm creadigol sy’n arwain ar Olion, yw Anthony Matsena, Marc Rees, Angharad Elen a Gethin Evans. Gydag artistiaid profiadol wrth y llyw, bydd cynulleidfaoedd yn mynd ar daith wedi ei hysbrydoli gan chwedl Arianrhod a phrofiadau pobl ifanc LHDTC+ lleol.

Bydd rhan un yn agor am chwe noson o’r 20fed o Fedi gyda sioe theatr yn Pontio. Mae rhan dau yn gynhyrchiad safle benodol mewn lleoliadau ar hyd a lled Bangor ar y 28ain o Fedi, a’r gynulleidfa yn cael dilyn perfformiadau o gwmpas y ddinas. Yn ystod y rhan yma hefyd, bydd gŵyl gymunedol awyr agored gyda cherddoriaeth fyw, bwyd a dawnsio. Ffilm fer sy’n cloi’r drioleg, gan gyfuno deunydd o rhan un a dau ac yn dilyn teulu lleol wrth iddynt fynd ar daith swreal drwy amser.

Wedi ei ariannu trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin mae Fran Wen wedi cydweithio  gydag elusen pobl ifanc, GISDA ar y cynhyrchiad. Y nod yw creu cyfleoedd a darparu gofod diogel i blant a phobl ifanc ganfod eu llais ac i ddylanwadu ar gynhyrchiad fydd yn adlewyrchu’r heriau maen nhw wedi wynebu wrth dyfu i fyny.

Dywedodd Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Fran Wen: “Mae Olion yn gwbl arloesol, dyma’r tro cyntaf i ni arbrofi gyda fformat trioleg a chyfuniad o berfformiadau aml safle, byw, a digidol mewn un cynhyrchiad fel hyn. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda thîm o artistiaid talentog dan arweiniad  Angharad Elen, Anthony Matsena a Marc Rees– oll yn dod â phrofiad sylweddol efo nhw i Fran Wen a’r sioe hon.”

“Mae rhoi pobl ifanc wrth galon pob cynhyrchiad yn greadigol yn greiddiol i’n gweledigaeth ni yn Fran Wen. Trwy weithio efo GISDA, mae Olion wedi sicrhau ein bod ni yn gallu gwneud hyn tra’n caniatáu i ni ddod â chynhyrchiad proffesiynol o’r safon uchaf yma i Fangor. Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu profiad newydd unigryw gyda chynulleidfa amrywiol.”

Sian Elen Tomos yw Prif Weithredwr GISDA, dywedodd: “Mae hwn wedi bod yn brofiad gwerthfawr i griw o bobol ifanc sydd yn aml yn teimlo nad ydyn nhw’n  cael eu cynnwys. Mae gweld eu hyder nhw’n tyfu ar yr un bryd â gweld y  cynhyrchiad yma’n dod yn fyw wedi bod yn ysbrydoliaeth. Mae wedi rhoi cip olwg iddyn nhw hefyd o’r cyfleodd sydd ar gael o ran gwaith ym myd y theatr a’r celfyddydau.”

Nia Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Frân Wen, ychwanegodd: “Gyda’r tocynnau yn mynd ar werth yr wythnos hon byddwn yn annog pobl i fachu ar y cyfle i brofi trioleg Olion. Mae modd mynychu pob rhan neu dim ond un rhan o’r cynhyrchiad gwych yma. Y gobaith yw gwneud hwn yn rhywbeth mor hygyrch ag y gallwn ni er mwyn i cymaint o bobol a phosib brofi a mwynhau theatr ar ei amrywiol ffurfiau.”

Bydd tocynnau yn mynd ar werth ar y 18fed o Orffennaf gyda gostyngiad i’r rhai sydd am fanteisio ar gynnig cynnar tan y 25ain.  Mae’r ŵyl deuluol yn rhad ac am ddim a bydd yn gyfle i gymuned Bangor brofi arlwy’r theatr yn ogystal â dod i adnabod Fran Wen, sy’n newydd i’r ddinas ers agor Nyth fel hwb gelfyddydol gymunedol yn 2023.

Mae manylion tocynnau ar gael ar franwen.com.

Tocynnau ar gael yn https://www.pontio.co.uk/online/article/24Olion