Trac newydd ‘COFIA’R ENW’ gan CELAVI o Fangor yn ‘Tracboeth’ ar BBC Radio Cymru!

‘Tracboeth’ ar BBC Radio Cymru’r wythnos hon!

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
CELAVI-COFIA'R ENW

Band sydd wedi derbyn cefnogaeth gan BBC Radio 1 – mae CELAVI’n ôl i rymuso gyda’u hanthem ffyrnig ac unapologetic newydd Cymraeg ‘COFIA’R ENW’! 

CELAVI ydi Sarah a Gwion. Daw’r ddeuawd ffyrnig o Fangor, Gogledd Cymru, gyda’u sŵn anthemig ac unigryw nu-metal, sy’n chwalu’r ffiniau gyda’u ddylanwadau fetal, goth, emo, diwydiannol, electro a roc.

Wastad yn canolbwyntio ar eu siwrne eu hunain, mae CELAVI wrth eu boddau gyda’u sŵn blaengar, ffres a ffrwydrol nu-metal, wedi ei gefnogi gan ‘BBC Introducing Rock’ gydag Alyx Holcombe ar BBC Radio 1 a ‘Future Alternative’ gyda Nels Hylton ar BBC Radio 1.

Yn falch o fod y band gyntaf nu-metal dwyieithog yng Nghymru, mae CELAVI yn ôl efo’u hanthem newydd ‘COFIA’R ENW’. Gyda lleisiau meddwol, a riffs ffiaidd, mae cyfosodiad CELAVI yn sŵn unigryw.

Mae ‘COFIA’R ENW’ wedi cael ei ddewis fel ‘Tracboeth’ yr wythnos hon ar raglen Mirain Iwerydd efo Elan Evans ar BBC Radio Cymru. Gallwch wrando’n eto yma.

Gafodd y gân ei ysbrydoli ar ôl gwylio rhaglen ddogfen am y dylunydd ffasiwn, Vivienne Westwood. Gafodd hi ddylanwad mawr ar ddod â ffasiwn pync i’r amlwg, ond heb ei rwystrau ar y ffordd. Er gwaethaf rhywfaint o feirniadaeth, a hyd yn oed pobl yn chwerthin am ei phen, parhaodd i weithio’n galed a chanolbwyntio ar ei nod.

Mae’r gân yn anthem ar gyfer y misfits. Mae’r gân yn annog y gwrandawyr i fod yn awthentig, i fod yn chi, ac i’ch atgoffa chi nad oes rhaid i chi fod yr un peth â phawb arall. Dilynwch eich breuddwyd chi, dim ots am be mae pawb arall yn ei feddwl. Does dim rhaid ffitio mewn.

Mae’r nu-metallers yn brysur yn recordio ar hyn o bryd, ac yn edrych ymlaen at ryddhau mwy o anthemau ffyrnig yn y dyfodol agos!

Yn ogystal, mae BBC Introducing in Wales, BBC 6 Music, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru a BBC Radio Cymru 2 wedi cefnogi CELAVI, gyda BBC Radio Cymru yn disgrifio’r band fel “y peth mwyaf swnllyd i ddod o Ogledd Cymru!”

Gyda miliynau o ffrydiau yn rhyngwladol a chydnabyddiaeth gan rai o’r rhestrau chwarae golygyddol mwyaf eu maes, mae CELAVI yn arwain y ffordd gyda’u sŵn awthentig!

Dyma sŵn nu-emo.

Mae ‘COFIA’R ENW’ allan dydd Gwener ar y label recordiau annibynnol MERAKI. Gallwch safio’r gân o flaen llaw yma.