Drws Anna, nofel gan Dafydd Apolloni

Tiwtor iaith ac ymchwilydd PhD Bangor yn cyhoeddi nofel.

gan Dafydd Apolloni

‘Mae ganddon ni i gyd ein drychau, y gwydr ’dan ni’n edrych

trwyddo er mwyn ceisio gwneud synnwyr o’r byd,

a does yna ’run dau wydr yr un fath.’

 

Drws Anna yw nofel gyntaf Dafydd Apolloni; stori llawn dirgelwch sy’n herio ein syniadau am hunaniaeth, cof ac atgof. Mae wedi’i gyhoeddi gan Gwasg carreg Gwalch ac fe’i lansiwyd yng nghwmni’r Athro Angharad Price yn llyfrgell Llanrwst.

Mae Iestyn Llwyd yn dod i fyw i dref fach, lle mae’n dod o hyd i waith fel cyfieithydd. Un diwrnod mae dieithryn o’r enw Simon Lewis yn ffonio gan ofyn iddo gyfieithu ei atgofion. Wrth i Iestyn Llwyd ddechrau cyfieithu mae’n darganfod gorffennol Simon Lewis: ei fywyd ym Mharis ac, yn arbennig, ei berthynas â merch o’r enw Anna, ac â chyfaill o’r enw Joni Zlatko. Tra mae’n cyfieithu, fodd bynnag, daw hanes Iestyn Llwyd yn fyw hefyd. Wrth iddo gael ei dynnu fwyfwy i fywyd Simon Lewis daw Iestyn i amau cof yr awdur, ac mae’n dechrau sylweddoli nad ar hap y dewiswyd ef i gyfieithu’r stori.

 

Profiad personol oedd y sbardun i Dafydd Apolloni. Eglura, ‘Ro’n i ar fy ffordd yn ôl i Baris un diwrnod pan gyrhaeddais y Gare du Nord a darganfod bod fy ffôn wedi marw. Roedd yn rhaid imi ddefnyddio un o ffonau cyhoeddus yr orsaf i gysylltu â ffrind er mwyn trefnu lle i gyfarfod, ac yn nes ymlaen, ges i’r syniad ynglŷn â rhywun yn gwneud yr un peth, ond heb unrhyw fanylion ar wahân i rif ffôn ar gyfer rhywun nad oedd o’n ei adnabod. Dyna oedd yr hedyn, ac roedd yn ffitio’n dda efo obsesiwn arall oedd gen i ar y pryd ynglŷn â’r unigolion dewr hynny sy’n troi cefn ar bopeth: yn deulu, confensiwn, traddodiad, popeth y tyfon nhw i fyny efo fo, popeth sy’n eu diffinio nhw.’

 

Mi ddechreuodd y nofel fynd i gyfeiriad stori dditectif, ond buan y gwelodd yr awdur fod y stori’n codi gwrthdaro rhwng y gorffennol a’r presennol; rhwng byw bywyd symudol neu aros yn yr unfan; rhwng y ddinas a’r wlad, neu rhwng y ddinas a’r dref fach. ‘Drwy hyn i gyd roedd y cwestiwn o bwy ydan ni, sut ydan ni’n gweld ein hunain a’r byd o’n cwmpas ni, medd Dafydd Apolloni, ‘ac, yn arbennig, sut mae ein hiaith ni a’r geiriau rydan ni’n eu defnyddio yn effeithio arnon ni.’

‘Roedd y nofel yn gyfle i gofnodi agwedd o ddau le dwi’n eu hystyried yn gartrefi i mi,’ ychwanega, ‘sef rhan o Gymru a dinas Paris. O ran y teitl, mae’r “drws” yn cyfeirio at ddau beth: drws llythrennol i’r adeilad lle mae Anna’n byw – lle y mae’r ddau brif gymeriad yn cael eu denu ato o’i herwydd hi – a drws ffigyrol, fel mynediad i loches, sy’n datgelu math o heddwch neu wybodaeth. Mae fel petai Anna’n dal y goriad i rywbeth y mae’r lleill yn chwilio amdano.’

Mae Dafydd Apolloni yn gweithio gyda’r adran Cymraeg i Oedolion ym Mangor, yn ymchwilydd PhD gyda’r Brifysgol gan astudio caffael iaith yn y gweithle. Yn 2004 cyhoeddwyd ei gyfrol Roma, Hen Wlad fy Nhad, oedd yn trafod ei brofiad o fywyd Rhufain a’r Eidal, ac mae nifer o’i straeon byrion wedi ymddangos yn Tu Chwith a Taliesin. Hon yw ei nofel gyntaf.