Radio Ysbyty Gwynedd yn lansio cynllun ‘Ffrindiau Radio Ysbyty Gwynedd’

Cynllun newydd i gefnogi’r orsaf radio ysbyty lleol

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths

Radio Ysbyty Gwynedd yn lansio cynllun ‘Ffrindiau Radio Ysbyty Gwynedd’ 

Fel elusen gofrestredig leol, mae Radio Ysbyty Gwynedd yn lansio cynllun newydd ‘Ffrindiau Radio Ysbyty Gwynedd’, lle y gall busnesau, sefydliadau ac unigolion lleol cefnogi’r elusen.

Fel elusen leol, mae’r orsaf radio ysbyty yn dibynnu ar ddigwyddiadau codi arian a rhoddion caredig i gynnal a gwella eu gwasanaeth gwerthfawr i’n cleifion, staff a’n cymunedau.

Mae cynllun ‘Ffrindiau Radio Ysbyty Gwynedd’ yn agored i fusnesau, sefydliadau ac unigolion lleol a hoffai gyfrannu’n garedig tuag at helpu’r orsaf radio ysbyty. Bydd unrhyw un sy’n cyfrannu yn cael eu gwahodd i’r stiwdio yn Ysbyty Gwynedd, Bangor am gyfle i dynnu lluniau, a bydd diolch swyddogol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Radio Ysbyty Gwynedd.

Yn ystod y pandemig COVID, darparodd gorsaf Radio Ysbyty Gwynedd wasanaeth gwerthfawr i’r ysbytai yn ein cymunedau, gan helpu i gadw cleifion mewn cysylltiad â’u teuluoedd a’u hanwyliaid yn ystod y cyfnod cloi pan oedd wardiau ar gau ac ni chaniateir ymweliadau gan gleifion. Cyflawnwyd hyn trwy ymestyn eu gwasanaeth i ddarlledu ar y rhyngrwyd a’n Ap, a galluogi darllediadau o negeseuon a cheisiadau gan gleifion, teuluoedd a’n cymunedau, gan gadw pawb mewn cysylltiad.

Yn ystod y cyfnod heriol hwn, daliodd yr orsaf radio ysbyty sylw BBC Radio 1, gydag un o’n cyflwynwyr Sarah Wynn yn cyflwyno ar eu rhaglen newyddion ‘newsbeat’.

Mae Radio Ysbyty Gwynedd bellach ar gael ar Alexa hefyd – gofynnwch i Alexa ‘Play Bangor Hospital Radio’. Bydd Radio Ysbyty Gwynedd hefyd yn ymestyn eu darllediadau i gynnwys gwasanaeth gwybodaeth iechyd a lles, nid yn unig yn gwasanaethu cleifion yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty, ond hefyd yn cadw mewn cysylltiad ac yn cynorthwyo gyda gwybodaeth a chyngor pan fyddant yn dychwelyd adref. Mae’r orsaf radio ysbyty hefyd yn y broses o ehangu eu darllediadau i gynnwys llawer o’r ysbytai cymuned leol.

Os hoffech gyfrannu, neu os hoffech ragor o wybodaeth am gynllun ‘Ffrindiau Radio Ysbyty Gwynedd’, mae croeso i chi anfon e-bost at radioysbytygwynedd@gmail.com neu ffoniwch: 07833 141 418. Gallwch hefyd gyfrannu drwy dudalen GoFundMe ‘Ffrindiau Radio Ysbyty Gwynedd’ GoFundMe Radio Ysbyty Gwynedd.