Prifysgol Bangor a’r Gymuned

Diweddariad ar ddatblygiadau’r Brifysgol o ddiddordeb ac o fudd i’r gymuned leol (Medi 2024)

gan Iwan Williams

Bu’n gyfnod prysur yn y Brifysgol, a myfyrwyr yn dechrau neu’n dychwelyd at y flwyddyn academaidd newydd. Dechreuodd yr Wythnos Groeso ar 23 Medi, gyda digonedd o weithgareddau a digwyddiadau i’r rhai sy’n newydd i’r Brifysgol. Croeso cynnes i bawb sy’n cychwyn ar eu taith academaidd yn y Brifysgol.

Cafodd y Brifysgol wythnos brysur a llwyddiannus yn y Sioe Fawr, a gynhaliwyd ar Faes y Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd ar 22 –25 Gorffennaf. Roedd gan y Brifysgol bresenoldeb ar faes y sioe, ac roedd yn croesawu cannoedd o ymwelwyr bob dydd. Ymhlith yr uchafbwyntiau oedd lansio’r gyfres o bodlediadau ‘Llond ceg o fwyd cynaliadwy Cymru’ ar 23 Gorffennaf; yn ogystal â’r cwis cyffwrdd ‘Dyfalwch y benglog?’ gan Ysgol y Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol. Bu cydweithwyr hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau, trafodaethau a sesiynau a gynhaliwyd ar Faes y Sioe trwy gydol yr wythnos.

Cafodd y Brifysgol wythnos wych yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd ar 3 – 10 Awst. Ymwelodd miloedd â’r stondin ar y Maes a’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg dros yr wyth diwrnod, ac roedd digon yno i ddiddanu pawb.

Cafwyd amserlen wych o ddigwyddiadau a sesiynau ar stondin Prifysgol Bangor. Bu llawer o drafodaethau panel amserol a chyflwyniadau a oedd yn arddangos ymchwil ac arloesedd y Brifysgol. Yn ogystal ag Aduniad Blynyddol y Cyn-fyfyrwyr, bu sesiwn gan yr hanesydd lleol Gari Wyn am flynyddoedd cynnar y Brifysgol a dathlu 140 mlwyddiant; lansio Tystysgrif Addysg i Raddedigion – Anghenion Dysgu Ychwanegol ar Lefel Gynradd, y rhaglen gyntaf o’i bath yng Nghymru; trafodaeth banel ysgogol ac amserol yn gofyn ‘A ydyn ni’n byw mewn cymdeithas oddefgar?’ gyda chydweithwyr o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas; diweddariad ynghylch Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a ‘Sut mae creu meddygon i Gymru?’; a digonedd o weithgareddau ac arddangosiadau gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion.

Digwyddiad arall a gafodd dderbyniad da ar y stondin oedd twf y mentrau a arweinir gan y gymuned, trafodaeth banel o dan arweiniad Ysgol Busnes Bangor. I nodi 50 mlynedd o Neuadd Breswyl Gymraeg JMJ, cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu, a daeth llu o fyfyrwyr cyfredol a darpar fyfyrwyr i’r digwyddiad recriwtio, a oedd yn cynnwys perfformiad gan y band Cymraeg, Fleur de Lys.

Roedd gan y Brifysgol bresenoldeb hefyd yng Ngŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd rhwng 12-14 Gorffennaf, a Gŵyl Haf Bangor ar 17 Awst, a bu cydweithwyr o Sefydliad Confucius yn darparu arddangosiadau a gweithdai. Bu’r rheini’n gyfleoedd i drafod yr hyn sydd gan y Brifysgol i’w gynnig gydag aelodau’r cyhoedd, rhannu deunyddiau gwybodaeth ac ateb unrhyw gwestiynau. Bu’n haf prysur o fwrlwm o ddigwyddiadau, ac mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd, y Sioe Fawr a’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2025, yn ogystal â digwyddiadau lleol a rhanbarthol.

Bydd partneriaeth tair blynedd y Brifysgol gyda’r Sefydliad Materion Cymreig yn dod i ben gyda digwyddiad panel trafod yn Mhontio ar 3 Hydref. Bydd ‘Tuag at ddyfodol cynaliadwy i ogledd Cymru a’i gymunedau’ yn bwrw trem yn ôl ar y materion allweddol a drafodwyd yn y digwyddiadau blaenorol a bydd yn edrych ymlaen at yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu cymunedau’r gogledd. Bydd y digwyddiad yn cynnwys siaradwyr o’r Brifysgol yn ogystal â sesiwn banel gyda chynrychiolwyr o Gyngor Ynys Môn, Adra, Cwmni Frân Wen a Phartneriaeth Ogwen.

Mae Cronfa Gymunedol y Brifysgol yn dal i gefnogi nifer o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrojectau, ac yn helpu pontio rhwng y Brifysgol â’r cymunedau. Bydd y rownd nesaf o geisiadau, a fydd yn gwahodd staff y Brifysgol i weithio gyda phrojectau cymunedol, yn agor yn fuan.

Cynhelir cyfarfod diweddaraf Bwrdd Cymunedol y Brifysgol ar 7 Hydref, a bydd yn cynnwys trafodaeth ynglŷn â menter Ecoamgueddfa ym Mhen Llŷn, diweddariad ynglŷn â gwaith partneriaeth i adfywio canol dinas Bangor, a pharatoadau 1500 mlwyddiant dinas Bangor 2025.

Undeb y Myfyrwyr – Undeb Bangor: Yn ysbryd Pythefnos Masnach Deg (9-22 Medi), bu gwirfoddolwyr Project Go Fairtrade  yn ymweld ag ysgolion cynradd lleol, Ysgol Llanrug ac Ysgol Ein Harglwyddes, ar 18 ac 19 Medi i godi ymwybyddiaeth o Fasnach Deg. Mae myfyrwyr yn mwynhau gweithio gyda Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 i greu darnau o gelf ar gyfer Cystadleuaeth Celf Ieuenctid Masnach Deg Cymru.

Mae’r Project Prydau Poeth yn recriwtio gwirfoddolwyr i’r sesiynau dydd Sadwrn (3-6pm), sy’n dechrau ar 5 Hydref. Mae’r Arweinwyr Project yn edrych ymlaen at weithio gyda myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned i ddarparu prydau poeth am ddim yn Neuadd y Penrhyn. Diddordeb gwirfoddoli? Cysylltwch â hotmealproject@undebbangor.com.

Mae Project Gerddi Iachaol Undeb Myfyrwyr Bangor yn mwynhau eu partneriaeth ymgyfeillachu gyda ‘Dyma Ni’ i drefnu sesiynau i geiswyr lloches yn y gerddi, lle bu gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith anhygoel yn tyfu llysiau, yn codi gwelyau compost, ac yn clirio llystyfiant. Mae’r gerddi’n lle gwych i gwrdd yn gymdeithasol a mwynhau’r ardal. Byddem wrth ein bodd yn clywed gan unrhyw aelodau o’r gymuned, grwpiau neu fudiadau a fyddai â diddordeb gwirfoddoli neu gynnal eu sesiynau hwythau yn yr ardd. Cysylltwch â healinggarden@undebbangor.com i fynegi diddordeb.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Gwastraff y Brifysgol ar ein gwarthaf (14-20 Hydref), ac mae Undeb y Myfyrwyr yn defnyddio grwpiau myfyrwyr a phartneriaid cymunedol i wella’r effaith a gawn ar y cyd a gwneud y gweithgareddau mor gydweithredol â phosibl a hynny o dan arweiniad myfyrwyr. Ymhlith y cynlluniau mae Sesiwn Fawr Glanhau’r Traeth ar 14eg gyda Bywyd Preswyl, Ffair sy’n ymwneud ag ailddefnyddio ar yr 16eg (sy’n cynnwys Caffi Atgyweirio a Chyfnewid Dillad) ac Ymweliadau Gwastraff Cymunedol ar yr 17eg gyda Gwasanaeth Tai’r Brifysgol. Mae amrywiol bartneriaid yn cefnogi digwyddiadau trwy gydol yr wythnos, gan gynnwys Cyngor Gwynedd, Llwybrau Di-sbwriel, Surfers Against Sewage, Café Trwsio Cymru, Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru a Beics Antur.

Mae Pontio yn dal i gynnig rhaglen gymunedol amrywiol gan gynnwys Caffi Babis misol, sesiynau ioga wythnosol, a gweithdai dawns i unigolion sy’n byw gyda chlefyd Parkinson. Roedd rhaglen haf brysur y ganolfan yn cynnwys nifer o ysgolion a cholegau lleol, a nifer o sioeau a pherfformiadau. Mae Arddangosfa Newid Eryri, a gynhaliwyd ym Mhontio fis Awst, yn arddangosfa amlgyfrwng ryngweithiol a wahoddodd y cyhoedd i ystyried sut rydym yn gweld y dirwedd o’n cwmpas yn seiliedig ar yr hyn a wyddom amdani a phwy sy’n dweud wrthym amdano. Ar 6 Medi, cynhaliwyd MonologAYE. Yn y digwyddiad bu unigolion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio gyda’u mentoriaid i ysgrifennu monolog am eu profiad unigryw o weithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Maes o law, bydd yr Athro Marco Tamburelli yn traddodi darlith gyhoeddus sy’n dwyn y teitl “Amrywiaeth ieithyddol yn Ewrop: pam, ble a sut?” ar 9 Hydref yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau. Bydd Pontio’n cynnal dau ddigwyddiad dathlu ar 19 Hydref. Bydd ‘Y Coleg ar y Bryn: 140 Mlynedd o Hanes Prifysgol Bangor’ yn edrych ar hanes cyfoethog y sefydliad. Mae’n ddelfrydol i’r rhai sydd â diddordeb magu ymwybyddiaeth o orffennol y Brifysgol a Bangor fel dinas brifysgol, a bydd Dathliadau 50 Mlwyddiant Neuadd JMJ  yn dilyn o ddigwyddiad yr Eisteddfod yn ddiweddar.

Gan barhau a thema’r 140 mlwyddiant, bydd digwyddiad y Casgliadau Arthuraidd a Cheltaidd, Ysgolheictod a’r Gymuned ar 23 Hydref yn cynnwys perfformiad gan Gillian Brownson ac ysgol leol, paentiad byw gan Dr Maria Hayes, cyflwyniad gan yr Athro Raluca Radulescu a sgwrs gan Dr Aled Llion Jones. Mae’r digwyddiad yn dathlu’r cysylltiad clos sydd rhwng sefydlu Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor a’r rhan y mae’r Astudiaethau Arthuraidd a Cheltaidd yn ei chwarae i feithrin enw da rhyngwladol y brifysgol yn y meysydd astudio hynny, yn ogystal â gwaith gyda’r gymuned i gynnal diddordeb yn y chwedlau. yn genedlaethol yng Nghymru ac yn y byd.

Bydd Syr Bryn Terfel a’i gyfeillion yn perfformio ym Mhontio ar 1 Tachwedd. Bydd Meinir Wyn Roberts, y gantores-gyfansoddwraig Eve Goodman, a Mali Elwy’n ymuno â Syr Bryn ar y llwyfan. Bydd Dr Iwan Llywelyn Jones hefyd yn cymryd rhan yn y cyngerdd, gyda’r corau lleol Côr Dre a’r côr myfyrwyr, Côr JMJ o dan arweiniad un o gyn-fyfyrwyr Bangor, Sian Wheway. Yn olaf, bydd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, a chyn-ddyfarnwr CBDC/FIFA a chwaraewr rhyngwladol Cymru, Cheryl Foster, yn cymryd rhan mewn trafodaeth gyda’r nos ar 8 Tachwedd.

Mae’n gyfnod prysur a chyffrous yn M-SParc. Trwy adeiladu ar lwyddiant Stryd Fawr Bangor a Phwllheli, agorwyd trydydd safle ‘Ar Daith’ yn Y Bala. Cynhaliwyd digwyddiad lansio ar 12 Medi, a bydd y safle newydd yn ganolbwynt i ddigwyddiadau, gweithdai, sesiynau STEM i blant, rhannu desg, cyngor busnes a mwy i’r gymuned. Cynhaliwyd Caffis Trwsio yn y Bala ar 6 Medi, Pwllheli ar 13 Medi, a Bangor ar 27 Medi. Mae Clwb SParci, clwb STEM Cymraeg M-SParc i blant o bob oed, yn dal i fynd ac yn ddiweddar bu’n cynnal gweithdai ar beirianneg sifil a mecanyddol a bioamrywiaeth.

Mae Gardd Fotaneg Treborth yn fwrlwm o weithgareddau a datblygiadau gwych. Agorodd ’Gardd o Faint Cymru’, a enillodd fedal aur a’r cynnig gorau yn y categori yn Sioe Flodau Chelsea eleni, yn swyddogol ar 12 Gorffennaf gyda chydweithwyr, ysgolion lleol ac aelodau o’r Senedd. Fel rhan o Aduniad Cyn Fyfyrwyr Dathliadau 140 y Brifysgol  ar 13 a 14 fis Medi, ymwelodd y cyfranogwyr â digwyddiad agored Cynllun Gerddi Cenedlaethol Treborth ar daith a sgwrs am hanes a datblygiadau diweddaraf y safle.

Enillodd Gardd Fotaneg Treborth grant £250,000 gan y cynllun Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd. Rhoddir y grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Rhoddwyd y grant i Dreborth i adfer ac adfywio’r coetir naturiol a diwylliannol sydd yn yr ardd a gwella mynediad a darparu profiadau dysgu ystyrlon trwy raglen amrywiol o gyrsiau, gweithdai a hyfforddiant.

Mae myfyrwyr y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig cyngor cyfreithiol cyfrinachol a phroffesiynol am ddim i’r cyhoedd trwy Glinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor, sydd newydd ei sefydlu. Mae’r gwasanaeth, sydd ar gael yn ystod y tymor, yn cynnig cymorth cyfreithiol hwylus i’r gymuned ac yn rhoi profiad ymarferol defnyddiol dros ben i’r myfyrwyr. O dan oruchwyliaeth cyfreithwyr cymwys ac uwch ddarlithwyr profiadol, bydd y clinig yn cynnig gwasanaeth dwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’n gyfnod prysur a chyffrous rhwng pob dim, a byddwn yn parhau i rannu diweddariadau gyda chi’n rheolaidd am ddatblygiadau’r Brifysgol i’r gymuned.  Dymuniadau gorau i’r staff a’r myfyrwyr yn y flwyddyn academaidd newydd.

#EichPrifysgolEichCymuned

Dweud eich dweud