Prifysgol Bangor a’r Gymuned

Diweddariad ar ddatblygiadau’r Brifysgol o ddiddordeb ac o fudd i’r gymuned leol (Gorffennaf 2024)

gan Iwan Williams

Mae wedi bod yn gyfnod prysur yn y Brifysgol, gyda pharatoadau’r seremonïau graddio’n mynd rhagddynt, uchafbwynt yng nghalendr y Brifysgol a gynhelir rhwng 8-12 Gorffennaf. Llongyfarchiadau i’r unigolion fydd yn graddio’n fuan!

Mae Cronfa Gymunedol y Brifysgol yn parhau i gefnogi gweithgareddau a phrojectau sy’n annog gweithgarwch ymgysylltu dinesig gyda phartneriaid allanol. Cefnogodd y gronfa ‘Ddigwyddiad Teithio Llesol i Randdeiliaid: Cynhyrchu Tystiolaeth i Gefnogi Teithio Llesol yng ngogledd Cymru’, a gynhaliwyd yn Neuadd Reichel ar 1 Mai. Edrychwn ymlaen at weld sut y bydd y projectau eraill yn datblygu dros y misoedd nesaf. Bydd yr alwad nesaf am gynigion yn agor yn yr hydref.

Ar 17 Mehefin, cynhaliwyd cyfarfod arall o Fwrdd Cymunedol Prifysgol Bangor. Trafodwyd ystod o faterion sy’n berthnasol i’r Brifysgol a phartneriaid allanol, ym Mangor a thu hwnt, gan gynnwys gwelliannau i Stryd Fawr Bangor, projectau Adra, project awyr agored Storiel, gwaith presgripsiynu cymdeithasol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a’r rhaglen o ddathliadau nodi 140 mlynedd ers sefydlu Prifysgol Brifysgol yn 2024 a dathliadau’r 1500 Dinas Bangor yn 2025.

Mae Pontio yn parhau i ddarparu rhaglen amrywiol i’r gymuned gan gynnwys y Caffi Babis misol, sesiynau ioga wythnosol, a gweithdai dawns i unigolion sy’n byw gyda chlefyd Parkinson. Ar 10 Ebrill, ymunodd disgyblion o Ysgol Friars â BLAS, rhaglen gelfyddydol plant a phobl ifanc Pontio, i berfformio ‘The Sad Club’. Ar 25 Mai, cynhaliodd Pontio’r diwrnod gweithdy dawns rhad ac am ddim i bobl 13-21 oed, a ddarparwyd gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Ar 8 Mehefin, lansiodd Pontio arddangosfa ‘Môr’, a oedd yn llawn gweithgareddau, gweithdai, gwaith celf a mwy, i bobl o bob oed, i gyd-fynd â Diwrnod Cefnforoedd y Byd. Roedd Pontio hefyd wedi cynnal ‘Mae Gen Ti Ddreigiau’ rhwng 22 -27 Mehefin. Mae’r sioe, sy’n cael ei chynhyrchu a’i pherfformio gan Taking Flight, y cwmni theatr hygyrch, ac mae’n sioe deuluol gyda disgrifiad sain sy’n mynd ar daith ledled Cymru. Roedd y sioe yn rhan o Ŵyl Undod Hijinx, un o wyliau celfyddydol cynhwysol ac anabledd mwyaf Ewrop. Cynhaliwyd yr ŵyl yn Pontio ar 27 Mehefin. Wrth edrych ymlaen, bydd Pontio yn cynnal RhythmAYE!, diwrnod o weithgareddau dawnsio a syrcas i’r teulu oll, ar 20 Gorffennaf, a bydd Parth Sioe Maes-G: Ein Sioe Amrywiaeth Fawr 2024′ ar 27 Gorffennaf.

Mae lleoliad ‘Ar y Lôn‘ M-SParc ar Stryd Fawr Bangor yn parhau i ffynnu, gyda’r safle yn lle poblogaidd i fyfyrwyr a phobl leol alw heibio a manteisio ar y mannau gweithio, defnyddio Gofod Gwneuthurwyr Ffiws a mynychu gweithdai e.e. Caffi Trwsio ar gyfer popeth o gyfrifiaduron i hwfers. Cynhaliwyd ‘Egni 2024′, digwyddiad i drafod projectau egni strategol y rhanbarth gyda phwyslais ar ymgysylltu â phobl ifanc lleol, yn M-SParc ar 21 Mai. Mae Clwb Sparci, clwb STEM Cymraeg M-SParc ar gyfer plant o bob oed, yn parhau gydag amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai cyffrous, gan gynnwys y gweithdy Microbits: Staying Healthy 2’ ar 13 Mehefin.

Roedd Gardd Fotaneg Treborth yn fywiog ac yn brysur yn ddiweddar yn ystod Gŵyl Draig, ar 8 Mehefin. Ar ddiwrnod braf o haf, cymerodd teuluoedd a phobl o bob oed ran mewn amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai a chawsant fwynhau’r adloniant, gyda dros £5,000 wedi’i godi ar gyfer Dr Sophie Williams (cyn aelod o staff Prifysgol Bangor sydd bellach yn byw mewn gofal). Mwynhaodd dros 900 o ymwelwyr sesiynau ioga, myfyrio a chanu, arddangosfa eang o stondinau gan gynnwys Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ysgol Goedwig Elfennau Gwyllt a Gweithredu dros yr Hinsawdd Gogledd Cymru, a pherfformiadau syrcas gan Syrcas Chimera CBC.

Wrth edrych ymlaen, bydd gardd a gafodd ei harddangos fel rhan o Sioe Flodau byd-enwog Chelsea ym mis Mai yn cael ei hadleoli i Dreborth yr haf yma. Gan weithio gyda Studio Bristow, cwmni dylunio gerddi yn Eryri, a’r elusen newid hinsawdd, Maint Cymru, bydd yr ardd yn cael ei lansio ar 12 Gorffennaf. Ar 9 Mehefin, cynhaliwyd Diwrnod Agored yn Fferm Henfaes, sef fferm ymchwil Prifysgol Bangor. Gwahoddodd cydweithwyr y cyhoedd i’r fferm i arddangos eu hymchwil a’r cyfleusterau.

Cynhaliodd Brifysgol Bangor, drwy’r rhaglen Ehangu Mynediad, ddigwyddiad Preswyl Gofalwyr Ifanc rhwng 25 —27 Mawrth. Bydd y digwyddiad preswyl nesaf yn cynnwys hanner cant o bobl ifanc o ystod o ysgolion ledled Cymru, a bydd yn cael ei gynnal rhwng 1 – 3 Gorffennaf.

Mae grŵp Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor Prifysgol Bangor yn parhau i weithio ar brojectau gwirfoddoli sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y gymuned, gan gynnwys y Project Prydau Poeth. Nod y project gwirfoddoli hwn, sydd dan arweiniad myfyrwyr, yw cefnogi’r gymuned leol yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae gwirfoddolwyr yn coginio 50-70 o brydau poeth bob dydd Sadwrn ac yna’n eu gweini yn Neuadd Penrhyn i unrhyw un sydd mewn angen.

Mae’r Brifysgol wedi bod yn weithgar mewn gwyliau lleol a chenedlaethol dros yr wythnosau diwethaf:

  • Roedd Prifysgol Bangor yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon ar 11 Mai. Gan wneud y mwyaf o’r tywydd hyfryd, roedd digon o ddiddordeb yn ardal Pentref Bwyd Môr Gwyddorau’r Eigion, lle’r oedd cegin ac arddangosfeydd coginio bwyd môr byw, parth rhithrealiti rhyngweithiol, arddangosfeydd celf ar thema’r môr, yn ogystal â gweithgareddau iaith a chelf ar thema’r môr i blant. Roedd cydweithwyr o’r Ysgol Feddygol hefyd yn bresennol yn yr ŵyl i gynnal sgyrsiau a darparu gwybodaeth.
  • Roedd y Brifysgol yn Eisteddfod yr Urdd Meifod rhwng 27 Mai – 1 Mehefin. Wythnos brysur a llwyddiannus gyda llawer o ymwelwyr yn galw heibio ein stondin, gan gynnwys sawl cystadleuydd ysgol a chorau i ymarfer! Roedd myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn fuddugol mewn amrywiaeth o gystadlaethau. Ymysg y llwyddiannau, cyhoeddwyd Tegwen Bruce-Deans, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor, fel Prif Awdur Rhyddiaith yr ŵyl, gan ennill y Goron eleni. Ar stondin y Brifysgol, bu cydweithwyr a myfyrwyr yn brysur yn ymgysylltu ag ymwelwyr. Dechreuodd yr wythnos gyda Chaffi Babis, dan arweiniad y cyfarwyddwr theatr a pherfformiwr Siwan Llynor ac Angharad Harrop. Darparodd cydweithwyr o Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, a’r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol weithgareddau a heriau i blant a phobl ifanc, a chyhoeddodd Ysgol Feddygol Gogledd Cymru enillwyr ei chystadleuaeth gwaith cartref cyntaf, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â’r Urdd. Roedd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething MS, ymhlith yr ymwelwyr i’r stondin ar 31 Mai.
  • Wrth edrych ymlaen, mae paratoadau’n mynd rhagddynt o ran cyfranogiad y Brifysgol yn Sioe Frenhinol Cymru rhwng 22 –25 Gorffennaf, yn ogystal â’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd rhwng 3 – 10 Awst. Bydd y Brifysgol yn cynnig rhaglen gyffrous o weithdai, trafodaethau panel, sgyrsiau a chyflwyniadau, gyda digon ar gael i blant a phobl ifanc, a byddwn yn cymryd y cyfle i ddathlu 50 mlynedd o Neuadd Preswyl Cymraeg Neuadd JMJ! Yn ogystal â hynny, bydd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn mynychu Gŵyl Haf Bangor ar 17 Awst.

Cyn gwyliau’r haf, hoffai’r Brifysgol ddymuno’n dda i bawb dros wyliau’r haf, ac edrychwn ymlaen at rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi am waith a datblygiadau perthnasol y Brifysgol yn yr hydref.

#EichPrifysgolEichCymuned