Bu’n gyfnod prysur yn y Brifysgol. Digonedd o waith ac astudiaethau lu, a nifer o ddatblygiadau a digwyddiadau cyffrous a ninnau’n ffarwelio â’r gaeaf ac yn edrych tua’r gwanwyn. Ar 18 Hydref 2024, bydd y Brifysgol yn cyrraedd carreg filltir arbennig ac yn dathlu 140 mlwyddiant: 140 o flynyddoedd o bobl, syniadau a chyflawniadau a fu’n fodd i drawsnewid ac yn fuddiol i’r byd. Drwy gydol y flwyddyn, bydd Prifysgol Bangor yn arddangos ei hanes cyfoethog a’i chyflawniadau, trwy gyngherddau, arddangosfeydd, cyfres o ddarlithoedd sefydlu Athrawon, a chyfres o ddarlithoedd gan Gyn-fyfyrwyr nodedig. Mae’r digwyddiadau i gyd yn agored i’r cyhoedd a’r gymuned. Cewch ragor o wybodaeth yma. Bydd Cerddorfa Symffoni a Chorws Prifysgol Bangor yn perfformio yn Neuadd Prichard-Jones ar 21 Ebrill, fel rhan o’r dathliadau.
Fis Ionawr, cyhoeddwyd y byddai Cronfa Gymunedol y Brifysgol yn ariannu saith project arall. Mae’r projectau’n helpu cymunedau’r gogledd mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys teithio llesol, hwylio cynhwysol ar y Fenai, dosbarthiadau meistr mewn llenyddiaeth i fyfyrwyr chweched dosbarth lleol, a gweithio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri i ddatblygu cynigion i weithredu ar yr hinsawdd yn ogystal ag Uwchgynhadledd Ieuenctid gyda phlant ysgol lleol. Cewch ragor o wybodaeth am y projectau, a’r un ar ddeg o brojectau a gefnogwyd yn flaenorol yma. Bydd cylch nesaf cynigion y Gronfa Gymunedol yn agor yn ddiweddarach eleni.
Ar 29 Chwefror, daeth plant ysgol o ysgolion Gwynedd a Môn i Seremoni Raddio Prifysgol y Plant. Ar ôl cwblhau amrywiol weithgareddau a phrofiadau dysgu allgyrsiol yn llwyddiannus fel rhan o fenter Prifysgol y Plant, graddiodd disgyblion o saith ysgol ym Mhontio. Roedd yr adloniant yn cynnwys perfformiad gan Ysgol Bro Lleu a drymiau Bloco Sŵn, a bu disgyblion Ysgol Llandegfan yn perfformio Anthem Prifysgol y Plant a gyd-ysgrifennwyd ganddynt ar y cyd â’r Welsh Whisperer. Mae menter Prifysgol y Plant, a arweinir gan Brifysgol Wrecsam gyda Phrifysgol Bangor yn bartner cydweithredol allweddol, yn cynnwys mwy na hanner cant o ysgolion a 147 o gyrchfannau dysgu ledled y gogledd.
Cymerodd y Brifysgol ran yn Nathliadau Dydd Gŵyl Dewi Bangor. Cynhaliodd Pontio berfformiad gan Cleif Harpwood ar 23 Chwefror, a pherfformiad o ‘Ie Ie Ie’ gan Theatr Genedlaethol Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi. Roedd draig fawr a wnaed gan blant Clwb Sparci M-SParc yn rhan o orymdaith Dydd Gŵyl Dewi, a threfnodd Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas sgwrs ddiddorol ar-lein gan Nerys Siddall ynglŷn â bywyd Mari Jones y Beibil. Trefnodd Arweinwyr y Myfyrwyr hefyd De Parti Dewi Sant ar 2 Mawrth, a gynhaliwyd yn yr Hyb Gweithgareddau ar safle Ffriddoedd. Mae’r project yn parhau i roi cyfle i bobl hŷn Bangor fynd allan i gymdeithasu, ac mae’n helpu lleihau unigrwydd ac unigedd.
Bu dychweliad Gŵyl Wyddoniaeth Bangor yn llwyddiant ysgubol. Dechreuodd yr ŵyl ar 5 Mawrth gyda Caradog Jones, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor a’r Cymro cyntaf i gyrraedd copa Everest. Ar 8 Mawrth, ymwelodd tua saith deg o blant ysgol â Phontio ar gyfer Diwrnod Eco-Wyddoniaeth yr Ysgolion. Ar ôl sgwrs ynghylch ‘Rhagfarn Ddiarwybod mewn Gwyddoniaeth’ gan Dr Gareth Evans-Jones, mwynhaodd y plant ysgol amrywiaeth o stondinau rhyngweithiol, arddangosiadau a gweithgareddau a ddarparwyd gan gydweithwyr yn y Brifysgol a phartneriaid allanol, gan gynnwys project Morlais, Grŵp Llandrillo Menai ac Xplore! Canolfan Wyddoniaeth. I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth, cynhaliodd y Brifysgol ddigwyddiad ‘Ysbrydoli Cynhwysiant’ ym Mhontio. Siaradodd yr Athro Yueng-Djern Lenn a’r myfyriwr Kodi Edwards, y ddau o’r Ysgol Gwyddorau Eigion, am eu teithiau, eu profiadau, ac ymchwil ac addysg wyddonol.
Ar 9 Mawrth, gwahoddwyd y cyhoedd i adeilad Brambell i gymryd rhan yn Niwrnod Bydoedd Cudd Gwyddoniaeth. Daeth tua 1700 o bobl i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau, arddangosiadau ac arddangosfeydd. Hefyd ar 9 Mawrth, cynhaliodd Pontio sgwrs ‘Making Monsters’ gan Tim Haines (BBC Walking with Dinosaurs). Bu’n sôn am ei yrfa ddisglair, a’i frwdfrydedd dros ddarlledu ynghylch gwyddoniaeth, a digwyddiad clo Cynhadledd Ymchwilwyr Ifanc Gogledd Cymru (NWYRC). Cynhaliwyd gweddill y gynhadledd yn Neuadd y Penrhyn.
Ymhlith digwyddiadau eraill yr Ŵyl Wyddoniaeth roedd Darlith Gyhoeddus Awyr Dywyll Eryri ar 11 Mawrth, digwyddiad yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear ar 12 Mawrth, Digwyddiad Gyrfaoedd Gwyddorau’r Eigion ar 13 Mawrth, a Thaith Gerdded Ddaeareg yng Nghwm Idwal ar 17 Mawrth, yn dilyn ôl traed Charles Darwin. Daeth yr ŵyl i ben gyda sgwrs wych gan Steve Backshall ar “Venom: the science of terrible toxins in nature”. Roedd y lle dan ei sang ym Mhontio ar 20 Mawrth. Yn ogystal, cyflwynodd y Brifysgol weithdy trydan yn y diwrnod ‘Peiriannol’ yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ar 17 Mawrth.
Ar 11 Mawrth, cynhaliwyd cyfarfod diweddaraf Bwrdd Cymunedol Prifysgol Bangor. Ymhlith yr eitemau a drafodwyd roedd diweddariad ar waith Cyngor Dinas Bangor; mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar gynllun Trawsnewid y Trefi i gyflwyno delweddau finyl ar ffenestri siopau gwag y Stryd Fawr, ac mae’n cynnwys delweddau a roddwyd gan y Brifysgol. Roedd y cyfarfod hefyd yn cynnwys cyflwyniad ynglŷn â chyrsiau byr Prifysgol Bangor; cyflwyniad ar y ‘Gofod i blant a phobl ifanc: Ymgynghoriad cymunedol ar Broject y Gronfa Gymunedol; a diweddariad ar broject Tlodi a Dysgu Bangor mewn Ysgolion Trefol.
Ar 19 Mawrth, cynhaliwyd digwyddiad diweddaraf Prifysgol Bangor – Sefydliad Materion Cymreig (IWA). Digwyddiad oedd hwnnw ynglŷn â Darparu llesiant a gwytnwch trwy berchnogaeth gymunedol‘ a dyma’r pumed digwyddiad fel rhan o bartneriaeth dair blynedd rhwng y brifysgol a’r IWA. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Nhŷ Gwyrddfai, y ganolfan er datgarboneiddio ym Mhen-y-groes lle mae Prifysgol Bangor yn cydweithio â Grŵp Llandrillo Menai, ac roedd dros 70 o bobl yn bresennol. Bu’r digwyddiad yn ystyried y grwpiau a’r mentrau lleol sy’n dod ynghyd i brynu, rheoli a chynnal eu hasedau yn y cyfnod ariannol anodd sydd ohoni. O dan gadeiryddiaeth yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Bangor, roedd y panel yn cynnwys Dr Edward Thomas Jones, Uwch Ddarlithydd Economeg ym Mhrifysgol Bangor; Selwyn Williams, Cadeirydd Cwmni Bro Ffestiniog; Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen; Grant Peisley, Cyfarwyddwr Datblygiadau Egni Gwledig; a Jess Silvester, Rheolwr Rhaglen Cymru gydag Economi’r Bobl. Daeth nifer dda i’r digwyddiad i drafod syniadau ac atebion diddorol a chraff. Cynhelir chweched digwyddiad partneriaeth yr IWA, a’r olaf, fis Hydref.
At y dyfodol, bydd ffocws tîm Cysylltiadau Cymunedol y Brifysgol yn troi at Eisteddfod yr Urdd ym Meifod ym Mai/Mehefin, ac Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd fis Awst.
Mae Undeb Myfyrwyr Bangor yn dal i weithio gyda’r Cyngor ar broject gwirfoddol y Prydau Poeth. Mae’r project yn dal i weini prydau lu. Gweiniwyd 50-80 o brydau poeth am ddim i bobl yn y gymuned bob dydd Sadwrn yn Neuadd y Penrhyn (3-6pm). Mae’n bleser gan Undeb y Myfyrwyr ac Arweinwyr y Project gyhoeddi i’r project sicrhau sgôr hylendid o 5, sy’n fodd i gynnal ei barhad yn yr hirdymor.
Mae’r Undeb hefyd yn gweithio gyda Chyngor y Ddinas i sefydlu system fwrsariaeth i fyfyrwyr sy’n ymgymryd ag ymchwil cynradd sy’n berthnasol i Fangor. Cefnogwyd cynnig i roi cymhelliad ariannol i fyfyrwyr ôl-radd i wneud eu hymchwil ar bynciau sydd o ddiddordeb i Fangor gan Gyngor y Ddinas fis Ionawr.
Mae Sblat, clwb plant ar ôl ysgol Undeb y Myfyrwyr, yn cael ei gynnal bob dydd Mercher (4pm-5.45pm) ac mae ar agor i blant 5-7 oed. Bu’r myfyrwyr sy’n gwirfoddoli’n gweithio’n galed iawn eleni i gynnig gweithgareddau chwaraeon ac addysgiadol ar y cyd â grwpiau a sefydliadau’r myfyrwyr, a rhoi cyfle i’r plant roi cynnig ar bethau newydd e.e. cyflwyniad gan gymdeithas gwylio adar y Brifysgol, sesiynau gan y Clybiau Jiwdo a Sboncen a sesiwn gyda’r Gymdeithas Herpetoleg.
Cafodd Undeb y Myfyrwyr Wythnos Wirfoddoli lwyddiannus rhwng 5-11 Chwefror, gan ennyn diddordeb myfyrwyr newydd mewn gweithgareddau a lansio partneriaeth newydd gydag Ymddiriedolaeth Byd Natur Gogledd Cymru. Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd Caffi Atgyweirio o dan arweiniad y myfyrwyr, Diwrnod Cymunedol Glanhau’r Traeth ym Miwmares, a chwis myfyrwyr a drefnwyd mewn partneriaeth gan y Grŵp Codi a Rhoi (RAG) a phroject gwirfoddoli’r Cŵn Tywys.
Mae M-SParc yn dal yn fwrlwm o ddatblygiadau, gweithgareddau a digwyddiadau cyffrous. Fis Chwefror, ymwelodd tîm cynaliadwyedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) ag M-SParc. Fel rhan o bartneriaeth yr hwb arloesedd, bu cydweithwyr o M-SParc a CBDC yn trafod syniadau arloesol ar gyfer dyfodol cynaliadwy mewn pêl-droed, a fydd yn helpu timau pêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymru. Mae digwyddiadau a gweithgareddau M-SParc Ar y Lôn yn parhau ym Mangor a Phwllheli, gan gynnwys gweithgareddau Clwb Sparci, Sesiynau Ffiws, Torri â Laser i Fusnesau a gweithdy ‘Creu Mwg i Sul y Mamau’.
Mae Pontio yn dal yn ganolbwynt prysur i’r gymuned y gwanwyn hwn. Bu fabLAB yn cynnal sesiynau cynefino i gyflwyno pobl i’r gofodau a’r offer sydd ar gael i’r aelodau. Mae ‘BLAS’, rhaglen gymunedol Celfyddydau Pontio yn parhau gyda sesiynau Caffi Babis misol, a sesiynau dawns wythnosol i unigolion sy’n byw gyda chlefyd Parkinson. Perfformiodd Westend Academy ‘The Magic of Stage and Screen’ ym Mhontio ar 10-11 Chwefror. Roedd Pontio hefyd yn cynnal y Gŵyl Gerdd Bangor ar 15-18 Chwefror. Cynhaliwyd amrywiaeth o berfformiadau a gweithdai a oedd yn arddangos amrywiaeth eang o gerddoriaeth a rhywbeth i bobl o bob oed. Cyn bo hir, bydd Ysgol Glanaethwy’n perfformio ‘Morynion y Gwaed’ ym Mhontio ar 13-14 Ebrill.
Mae Gardd Fotaneg Treborth yn fwrlwm o weithgareddau a datblygiadau gwych. Ar 24 Chwefror, cynhaliodd yr Ardd ddiwrnod o gyflwyniad i’r planhigion isaf i’r gymuned i ddathlu canmlwyddiant Cymdeithas Fryolegol Prydain a chyfle i gael eich tywys o amgylch y llwybr mwsogl newydd gydag arbenigwyr bryoleg lleol. Cynhaliwyd cwrs gwneud sebon botanegol arall ar 9 Mawrth, gydag olewau botanegol a hanfodol a ysbrydolwyd gan gasgliadau’r Ardd. Cynhaliodd Cymdeithas yr Ardd Alpaidd eu sgyrsiau misol yn y labordy yn ogystal â noson ffilm yn archwilio alldeithiau hela planhigion i Awstralia a Creta. Dychwelodd y tîm ‘Ffeirio Nid Siopa’ i’r Ardd ar 3 Mawrth i gynnal diwrnod gwych arall yn ffeirio dillad, ac annog pawb i rannu eu heitemau gydag eraill yn lle prynu rhai newydd. Wrth gwrs roedd coffi a chacennau hefyd i helpu’r ffeirio!
Gyda chefnogaeth cyllid parhaus HEFCW, bu’r Ardd yn cynnal teithiau cerdded llesiant am ddim drwy gydol y gaeaf, i hybu llesiant corfforol a meddyliol. Mae’r teithiau cerdded yn agored i bob lefel ffitrwydd, ac maent yn fodd i unigolion ymlacio, bwrw straen ymaith, ac ailgysylltu â byd natur. Bu Ysgol y Goedwig yn fwrlwm yn ystod hanner tymor Chwefror eleni. Bu Clwb Gwyliau Byd Natur yr Elfennau Gwyllt yn crwydro’r coetir, yn adeiladu cuddfannau, ac yn dysgu am rai o grefftau’r goedwig. Mae Rhaglen lawn dros y Pasg yn Ysgol y Goedwig i deuluoedd ar gynllun chwarae’r Woodland Imps – pythefnos o adrodd straeon, celf mwd, helfa chwilod a mwy. Bu’r artist preswyl, Doreen Weaver, yn cynnig ysbeidiau o dawelwch bob pythefnos gyda dosbarthiadau celf botanegol, lle caiff y gymuned ddysgu arsylwi, darlunio a phaentio siapiau cyfareddol casgliadau’r planhigion. Mae arwerthiant planhigion gwanwyn blynyddol Cyfeillion Treborth ar ein gwarthaf! Ar 20 Ebrill a 25 Mai bydd y tai gwydr a’r twneli polythen yn llawn llysiau, perlysiau, planhigion gardd, tegeirianau, cacti, planhigion suddlon, a phlanhigion y tŷ, a’r cyfan ar werth, ynghyd â chacennau cartref, diodydd poeth, a chrefftau lleol.
Yn olaf, bydd Gŵyl Haf Draig Beats yn dychwelyd ar 8 Mehefin, a bydd gardd newydd a gaiff ei harddangos yn Sioe Flodau fyd-enwog Chelsea yr RHS fis Mai eleni’n symud i Dreborth yr haf yma.
Ar ran staff a myfyrwyr y Brifysgol, dymunwn Basg Hapus i chi ac edrychwn ymlaen at eich diweddaru ynglŷn â gwaith y Brifysgol a datblygiadau perthnasol yn ystod y flwyddyn.
#EichPrifysgolEichCymuned