Prif feddyg cyfryngol y genedl Dr Hilary Jones ar Radio Ysbyty Gwynedd

Sioe radio Lles arbennig Dr Hilary Jones ar yr orsaf radio ysbyty

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Dr Hilary Jones - Radio Ysbyty Gwynedd

Mae Radio Ysbyty Gwynedd, elusen gofrestredig, yn falch o fod yn darlledu sioe radio Lles arbennig Dr Hilary Jones.

Bydd Dr Hilary Jones, Meddyg Teulu a Golygydd Iechyd proffesiynol yn y cyfryngau ar Good Morning Britain a Lorraine yn rhoi gwybodaeth a chyngor dibynadwy ar iechyd a lles i wrandawyr Radio Ysbyty Gwynedd.

Wrth siarad am ei fenter gyffrous newydd, dywed Dr Hilary Jones, “Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl gael y cyngor cywir a all helpu i wella eu hiechyd a’u hapusrwydd. Mae cymaint o wybodaeth, newyddion a chynnwys ar gael i ni fel y gall fod yn anodd gwybod beth i ymddiried ynddo a beth sy’n berthnasol i unigolion a’u hanwyliaid.”

Dywedodd Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd “Un o’n prif amcanion yw ymestyn ein darllediadau i gynnwys gwasanaeth gwybodaeth iechyd a lles, nid yn unig gwasanaethu’r cleifion yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty, ond hefyd i gadw mewn cysylltiad â chynorthwyo gyda gwybodaeth a chyngor pan fydd y cleifion yn dychwelyd adref. Mae rhaglen Lles arbennig Dr Hilary Jones ar ein gorsaf yn rhan annatod a hygyrch o’n gwasanaeth gwybodaeth iechyd a lles. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn darlledu’r sioe Lles anhygoel hon – mae Dr Hilary Jones yn enw cyfarwydd”.

Gallwch diwnio i mewn i’r sioe radio meddygon teulu poblogaidd ar Radio Ysbyty Gwynedd ddydd Gwener yma, 2 Awst 2024, am 9yb.

Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com, ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd a hefyd ar Alexa.

Cafodd Radio Ysbyty Gwynedd ei enwi’n ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ y DU gan y Gymdeithas Darlledu Ysbytai ac enillodd hefyd y wobr ‘Efydd’ am ‘Orsaf Ddigidol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Radio Cymunedol 2022.

Mae’r orsaf yn mynd o nerth i nerth – yn gweithio ar raglenni elusennol arbennig i dynnu sylw at waith gwerthfawr elusennau lleol a chenedlaethol. Bu’r orsaf yn cefnogi nifer o ddarllediadau allanol yn cefnogi digwyddiadau gwych gan gynnwys Gŵyl Pier Garth Bangor 2024, Balchder Gogledd Cymru 2024, Relay For Life 2023 a Phenblwydd 75 y GIG.