Preswylydd o Fangor yn taclo Her Tri Chopa Cymru

Wŷr yn taclo tri copa yng Nghymru mewn un diwrnod, er cof am Mamgu ‘anhygoel’

gan Iwan Williams
Llun

Mae Iwan Williams, uwch swyddog ymgysylltu cymunedol Prifysgol Bangor, yn ymgymryd a her uchelgeisiol er cof am Famgu 102 oed – Irene Williams, a oedd yn sylfaenydd llawer Pwyllgor Cymorth Cristnogol yng Nghymru.

Bydd Iwan, sydd yn 41 oed, yn cychwyn y daith ar ddydd Mawrth 2il Gorffennaf drwy ddringo Pen y Fan, ym Mhywys– copa uchaf de Cymru; Cadair Idris ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac yna Yr Wyddfa – copa uchaf Cymru.

Mae’n anelu i gwblhau’r her mewn un diwrnod.

“Rwyf wedi bod i fyny’r Wyddfa dwy waith” eglura Iwan “dw i yn weddol ffit, ac wedi cymryd rhan mewn llawer ras a marathon. Roeddwn eisiau gwneud rhywbeth gwahanol er mwyn anrhydeddu Mamgu a chodi arian er cof amdani. Roedd hi’n wraig anhygoel ac yn fy ysbrydoli i a llawer o bobl eraill. Mae codi arian i Cymorth Cristnogol yn gwneud synnwyr felly wrth gofio pa mor angerddol oedd Mamgu dros Cymorth Cristnogol am ddegawdau.

Yn wreiddiol o Llandysul gorllewin Cymru bu i Iwan wario llawer iawn o amser gyda Mamgu a Dadcu, Irene a Cyril yn ystod ei blentyndod gerllaw yn Cwmann.

Roeddent yn adnabyddus iawn yn yr ardal – Cyril yn weinidog yn Eglwys Annibynwyr Y Priordy, Caerfyrddin yn y 1950au ac Irene yn arloesi a pharatoi’r ffordd ar gyfer cefnogaeth i waith Cymorth Cristnogol yng Nghymru – a adnabyddi’r y pryd hynny yn Inter-Church Aid.

Ceir llawer o hanes y cyfnod yn llyfr Dewi Lloyd Lewis, Ysgrifennydd Cenedlaethol cyntaf Cymru – Beginnings, sy’n nodi: Tra’n byw yng Nghaerfyrddin “trefnodd Irene y casgliad drws-i-ddrws cyntaf yn y dref a chodi £64. Defnyddiwyd tuniau i gasglu gan nad oedd blychau casglu nac amlenni ar gael bryd hynny”.

“Symudodd i Gaerdydd yn 1958 a sefydlu gyda dau arall, gangen Cymorth Cristnogol. Roedd yr ystafell fyw ar ffordd St Isan yn cael ei ddisgrifio fel ‘nerve centre’ ar gyfer Cymorth Cristnogol. Ar un achlysur cyrhaeddodd criw o ferched Capel Tabernacl Yr Ais yn barod i werthu cacennau cri o garafan ar y pafin. Yn anffodus roedd drws y garafan yn gwynebu relings y capel! Casglodd Mamgu y dynion ynghyd a gofyn i’r heddlu stopio’r traffig er mwyn troi y garafan rownd i wynebu’r cwsmeriaid eiddgar. Yn ystod ei bywyd a tra’n Gadeirydd Pwyllgor Cymorth Cristnogol Llanbedr Pont Steffan am 18 o flynyddoedd, llwyddodd i godi miliynau gyda phrosiectau yn cefnogi gwaith Cymorth Cristnogol”.

Meddai Iwan, “roedd gwaith Dadcu fel athro astudiaethau crefyddol yn eu harwain i deithio yn fyd-eang ac roedd ganddynt ddiddordeb mawr mewn materion rhyngwladol”.

“Ar un pwynt, byddai eu cartref fel canolfan answyddogol Y Cenhedloedd Unedig ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn astudio yn Llanbed” meddai Iwan gyda gwên “os oeddech chi’n fyfyriwr rhyngwladol yn Llanbed yn yr 80au a 90au, mae yna siawns dda eich bod wedi cael croeso yng nghartref Mamgu a Dadcu. Roeddwn yn aml yn cyfarfod myfyrwyr o Asia, Affrica a Gogledd America yn y tŷ, ac roedd llawer un ohonyn nhw wedi parhau’r cysylltiad gyda Mamgu hyd y diwedd.

Yn dilyn colli Cyril 20 mlynedd yn ôl, parhaodd Irene i fyw yn annibynnol hyd ei phenblwydd yn 100 oed, cyn symud i gartref gofal.

Yn mis Ionawr eleni, bu farw yn 102 oed.

“Roedd hi’n benderfynol ac yn llawn enaid,” ychwanegodd Iwan “Gwraig anhygoel a gafodd fywyd anghredadwy.”

“Rhoddodd Irene fywyd o wasanaeth i Cymorth Cristnogol”, meddai Iwan “roedd hi’n wraig i Weinidog ac Athro ac yn llawer llawer mwy. Pwy a wŷr pa yrfa y byddai wedi llwyddo ynddo pe bai’n gyfnod gwahanol mewn amser.

“Roedd ganddi ddiddordeb brwd mewn materion cartref a rhyngwladol ac yn medru trafod unrhywbeth: byddai’n bosib trafod y byd gyda hi drwy’r dydd. Pobl yn cyd-weithio ar draws ffiniau o bob math – gwleidyddol, ieithyddol, crefyddol– dyna oedd ei dyhead.

“A beth am y profiadau bywyd gafodd hi. Nid llawer sydd wedi cyfarfod Archesgob Desmond Tutu, dwy waith, na Martin Niemöller, y diwinydd oedd yn gwrthwynebu Hitler; croesawodd y Bendigaid Feistr Chin Kung, mynach Bwdaidd i’w chartref; treulio un gaeaf yn teithio o amgylch India; teithio i Korea gyda Dadcu; ymweld a Cuba a De Affrica gyda’i ffrind o’r Cenhedloedd Unedig”.

“Hoffwn feddwl y byddai wrth ei bodd fy mod yn gwneud rhywbeth ar gyfer achos oedd mor agos at ei chalon.”

Mae Iwan wedi codi £510 o’i darged £750 yn barod. I gefnogi Iwan a gwaith Cymorth Cristnogol, ewch i’r dudalen hon os gwelwch yn dda – https://www.justgiving.com/page/iwan-williams-trichopacymru2024.