Olion – Cyfle olaf i fachu tocyn i berfformiad theatr unigryw

Cynhyrchiad arloesol yn rhan o ddathliadau 40 cwmni theatr Frân Wen

gan Erin Telford Jones

Ymarferion Olion

Ymarferion Olion

Gyda’r perfformiad cyntaf yn prysur agosáu, mae tocynnau Olion, cynhyrchiad diweddaraf Frân Wen yn gwerthu’n gyflym. Dyma’r tro cyntaf i’r cwmni theatr arbrofi gyda fformat trioleg, sy’n cyfuno theatr fyw, perfformiadau safle-benodol a ffilm, oll yn archwilio themâu allgau a pherthyn.

Wedi’i ysbrydoli gan chwedl Arianrhod o’r Mabinogi, mae’r sioe yn cychwyn ar yr 20fed o Fedi  gyda pherfformiad deinamig yn Theatr Bryn Terfel, Pontio, gyda chast proffesiynol, sy’n cyfuno dawns, theatr a cherddoriaeth. Yn dilyn hyn, mae’r Isfyd yn cynnig perfformiad safle-benodol mewn sawl lleoliad ar draws Bangor, gan gynnwys gŵyl gymunedol gyda cherddoriaeth fyw a gweithgareddau teuluol. Daw’r drioleg i ben gyda ‘Y Fam’– ffilm fer sy’n mynd yn ddwfn i fewn i fyd mytholegol Olion.

Dywedodd Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen: “Byddwn yn annog pobl i neidio ar y cyfle hwn i fod yn rhan o’n cynhyrchiad arloesol. Dyma’r tro cyntaf i ni arbrofi gyda fformat trioleg a chyfuniad o berfformiadau byw, aml-safle, a digidol. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at ddod â thîm creadigol mor dalentog at ei gilydd ac i lwyfannu rhan o’r cynhyrchiad ar lwyfan Pontio.

“I ychwanegu at y cyffro mae’r sioe yn rhan o’n dathliadau pen-blwydd yn 40. Mae yna ychydig o docynnau ar ôl – felly dyma’r cyfle olaf i sicrhau lle i brofi Olion ac i fod yn rhan o stori’r Fran Wen hefyd.”

Mae’r Olion wedi derbyn cefnogaeth gan gronfa ffyniant gyffredin y DU ac mae’n brosiect ar y cyd â’r elusen ieuenctid leol, Gisda, sy’n gweithio gydag oedolion ifanc bregus.

Mae tocynnau ar gael ar wefan Pontio  a rhagor o wybodaeth yn Fran Wen.