Nwyddau wedi torri?

Dewch a nhw i gaffi trwsio Bangor

gan Marian

Ddydd Gwener Mai 24ain fe fydd cyfle eto i gael trwsio nwyddau yn adeilad M-SParc ar y stryd fawr ym Mangor.

Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i drwsio’ch eitemau a chynnig yr arweiniad gorau phosibl gyda’r pethau canlynol:

  • Dyfeisiau Trydanol Bach
  • Dillad a Thecstilau
  • TG – Cyfrifiaduron/Gliniaduron/Ffonau Symudol/Thabledi a mwy
  • Uwchgylchu eitemau gyda’n Gofod Gwneud
  • Addasiadau Beic Sylfaenol
  • Eitemau cyffredinol

Ynglŷn â’ch eitemau cyffredinol ffoniwch os hoffech i drafod cyn dod draw i’r lleoliad

Bydd pob offer trydanol yn cael ei arbrofi gyda pheiriannau ‘PAT Testing’

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, neu os am wirfoddoli ar y diwrnod mae croeso i chi gysylltu ar 077591 29606

Dweud eich dweud