“Mynd i’r afael â dwy broblem”: Ymateb i ganolfan iechyd ar Stryd Fawr Bangor

Mae’r cynlluniau wedi’u cymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd a Chyngor Gwynedd

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
helath-centre

Siân Gwenllian ger Canolfan Menai, Bangor

Mae Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi ymateb i’r cyhoeddiad bod cynlluniau ar gyfer canolfan iechyd a lles newydd gwerth £30 miliwn ar Stryd Fawr Bangor wedi’u cymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd a Chyngor Gwynedd.

Yn ôl Siân:

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn newyddion da iawn i’r ddinas.

“Mae’r Ganolfan Iechyd a Lles yn un o’r prosiectau rydw i wedi bod yn eu gwthio fel y ffordd ymlaen i ganol dinas Bangor. Rydan ni i gyd yn gwybod bod angen dod â bywyd newydd i’r stryd fawr, ac rydan ni i gyd yn gwybod fod dybryd angen cyfleusterau iechyd newydd, cyfoes. Mae’r prosiect yma felly yn mynd i’r afael â dwy broblem fawr.

“Yn ogystal â gwella gwasanaethau iechyd lleol a lleddfu’r pwysau aruthrol ar Ysbyty Gwynedd, bydd yn denu pobl leol i ganol y ddinas, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr i siopau a chaffis lleol.

“Dwi’n edrych ymlaen at gydweithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru, y bwrdd iechyd lleol a Chyngor Gwynedd i weld y cynlluniau ar gyfer y ganolfan yn cael eu gwireddu.”