Mae meddygon iau ledled Cymru yn dechrau streic tridiau dros gyflog ddydd Llun.
Mae’r streic yn dechrau am 07:00 fore Llun ac yn para tan 07:00 ddydd Iau, a gallai dros 3,000 o feddygon streicio. Tra bod y gweinidog iechyd Eluned Morgan yn rhybuddio bod disgwyl i’r effaith ar wasanaethau fod yn sylweddol, dywedodd y byddai gofal brys yn parhau.
Fore dydd Llun, ymunodd Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Arfon â meddygon iau ar y llinell biced.
Yn ôl Siân Gwenllian:
“Mae cyflog meddygon iau bron i draean yn llai mewn termau real heddiw nag yr oedd bymtheng mlynedd yn ôl.
“Y gweithlu ymroddedig yw sylfaen y GIG, ac mae’r gweithlu hwnnw’n haeddu tâl a thelerau gwaith iawn er mwyn darparu’r gofal gorau posib.
“Mae mynd ar streic yn benderfyniad anodd i’r doctoriaid hyn.
“Ond yn anffodus, nid yw Cymru’n cael ei hariannu’n deg, sy’n golygu na fedrwn dalu’r cyflog y mae gweithwyr y sector cyhoeddus yn ei haeddu.
“Mae Plaid Cymru yn galw am gyllid teg i Gymru – i fuddsoddi yn ein GIG, ac i sicrhau nad ydan ni’n dibynnu ar benderfyniadau sy’n cael eu gwneyd yn Lloegr.”