Lansiad llyfr ac arddangosfa: Rhodri Ellis Jones

Coffáu archeolegydd o fri

gan A. Price
COFION-Gwahoddiad-Lansiad-101024-3

Gwahoddiad i lansiad

Mae’r ffotograffydd dogfennol nodedig o Ddyffryn Ogwen, Rhodri Ellis Jones, a alwyd gan Philip Jones Griffiths yn ‘fardd Cymraeg efo camera’, wedi cyhoeddi cyfrol o ffotograffau i goffáu ei dad, John Ellis Jones, a fu’n ddarlithydd yn y Clasuron ym Mhrifysgol Bangor trwy gydol ei yrfa. Roedd hefyd yn archeolegydd o fri a wnaeth waith cloddio o bwys yn ne Attica yng Ngwlad Groeg ac ar safleoedd milwrol Rhufeinig yng Nghymru. Bu farw yn 2023.

“Rhoddodd fy nhad, John Ellis Jones, bopeth i Brifysgol Bangor trwy ei fywyd, yn ei ddosbarthiadau ac yn ei weithgareddau allanol: cyfarwyddo dramâu Groegaidd, trefnu cyfarfodydd o Gangen Bangor o’r Gymdeithas Glasurol, a rhedeg Amgueddfa’r Brifysgol,” meddai Rhodri sydd wedi crwydro’r byd, o Tsieina i Nicaragua, yn dogfennu bywydau cymunedau dan warchae.

Mae’r ffotograffau’n gofnod tyner a theimladwy o alar ei dad yn y blynyddoedd wedi colli ei gymar, Renée, yn 2016, ac fe dynnwyd rhai o’r lluniau wrth i Rhodri gerdded o gartref y teulu yn Sling, ger Bethesda, i’r cartref gofal yn Llanberis lle treuliodd ei dad ei flynyddoedd olaf.

Cyhoeddir y llyfr gan Wasg Carreg Gwalch, ac mae hefyd yn cynnwys ysgrifau gan Ceri Davies, Manon Steffan Ros ac Angharad Price.

Cynhelir arddangosfa o’r ffotograffau i gyd-fynd â’r gyfrol, ac mae croeso cynnes i bawb i’r lansiad:

Dyddiad: Nos Iau, 10 Hydref

Amser: 5:30yh

Lleoliad: Storiel, Bangor

Cyswllt: Storiel 01248 353 368 storiel@gwynedd.llyw.cymru

Dweud eich dweud