Hyfforddi deintyddion ym Mangor?

Mae adroddiad pwysig wedi’i lansio heddiw

Ar Goedd
gan Ar Goedd
P1030193

O’r chwith i’r dde: Chris Drew, Pennaeth Partneriaethau Strategol, Prifysgol Bangor; Ffion Johnstone, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Siân Gwenllian AS, Rhun ap IorweArth AS, Meinir Lloyd Jones o gwmni ymgynghori Lafan; Non Elis, myfyrwraig ddeintyddol blwyddyn gyntaf.

Heddiw, mae Siân Gwenllian AS wedi lansio adroddiad sy’n gwneud yr achos dros sefydlu ysgol i hyfforddi deintyddion ym Mangor yn ei hetholaeth. Comisiynwyd yr ymchwil gan gwmni ymgynghori Lafan, ac mae’r ysgol arfaethedig yn rhan o weledigaeth ehangach yr AS i droi Bangor yn ganolfan ragoriaeth genedlaethol ar gyfer addysg feddygol.

Cynhaliwyd y lansiad ym Mhrifysgol Bangor a gwnaed cyfraniadau gan ffigurau o’r Brifysgol, y Bwrdd Iechyd lleol, myfyriwr deintyddol blwyddyn gyntaf yng Nghaerdydd, a’r cwmni ymgynghori a wnaeth yr ymchwil.

Yn ôl Siân Gwenllian, sy’n cynrychioli etholaeth Arfon yn y Senedd, mae’r alwad am Ysgol Deintyddiaeth ym Mangor yn codi o’r argyfwng deintyddol a’r ffaith bod cymaint o’i hetholwyr yn methu â chael mynediad at wasanaethau.

“Mae unigolion a phlant sy’n dymuno gweld deintydd ar gyfer triniaeth neu archwiliad o dan y GIG yn canfod bod hynny yn dasg bron yn amhosib yn etholaeth Arfon.

“Mae’r prinder darpariaeth GIG yn golygu fod nifer cynyddol o bobl a phlant yn dioddef poen di-angen, yn troi at ddulliau amhriodol o leddfu’r boen, ac yn yr achosion mwyaf difrifol yn gorfod troi at adrannau brys ein hysbytai am gymorth gan greu baich gwaith ac ariannol y gellid ei osgoi drwy atal y broblem rhag datblygu yn y lle cyntaf, neu o leiaf gychwyn ar y driniaeth yn amserol.”

Mynychwyd lansiad yr adroddiad ‘Llenwi’r Bwlch: Yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor’ gan ddeintyddion, academyddion, ffigyrau blaenllaw o’r maes iechyd yng ngogledd Cymru a gwleidyddion. Mae’r AS, a ymgyrchodd yn llwyddiannus am Ysgol Feddygol i Fangor, yn gobeithio defnyddio canfyddiadau’r adroddiad i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddechrau hyfforddi deintyddion ym Mhrifysgol Bangor.

“Mae’r sefyllfa’n wael ar draws Cymru ond mae tystiolaeth yn dangos fod y broblem o gleifion yn methu cael mynediad at ddeintydd y GIG hyd yn oed yn waeth yn ardal bwrdd iechyd y gogledd.

“Yn ogystal â darparu mwy o ddeintyddion gyda chyfran yn debygol o aros yn yr ardal leol, byddai Ysgol Ddeintyddol Bangor yn ychwanegiad pwysig at rôl y ddinas fel canolfan o ragoriaeth mewn hyfforddiant iechyd sy’n cynnwys Ysgol Feddygol Gogledd Cymru newydd y bûm yn ymgyrchu’n llwyddiannus drosti. Yn ei dro, byddai hyn yn cryfhau’r economi ym Mangor drwy greu mwy o swyddi newydd o ansawdd.”

Gellir dod o hyd i’r adroddiad yma. Aeth yr AS yn ei blaen i ddweud:

“Mae manteision lu i Gymru gyfan o sefydlu Ysgol Ddeintyddol newydd ym Mangor ac er mwyn tystiolaethu hyn, comisiynais yr adroddiad hwn gan gwmni ymchwil annibynnol Lafan, ac mae’r casgliadau trawiadol yn cael eu cyhoeddi yma.

“Yn fuan byddaf yn lansio deiseb y gall pobol leol ei harwyddo i ddangos eu cefnogaeth. Cadwch lygad ar fy nghyfryngau cymdeithasol.”