Wedi ymuno a’r llynges yn 15 oed, dychwelodd Dylan i dir sych ar ol naw mlynedd a dod yn aelod o’r grwp Y Castaways yn 1972.
Bu’r grwp poblogaidd yma yn diddanu cynulleidfaoedd ar hyd-a-lled Cymru a thu hwnt, ac ymddangos ar raglenni talent poblogaidd y cyfnod, Opportunity Knocks a New Faces.
Yna fe ffurfiodd y ddeuawd, Traed Wadin, gyda Neville Jones ar y gitar ddur.
Rhwng 1978 a 1984 fe wnaeth y ddau ryddhau dwy EP, ‘Tro i’r Fro’ a ‘Potel Fach o Win’ a dwy LP, ‘Fory Heb Ei Gyffwrdd’ a ‘Mynd Fel Bom’ a bu galw amdanynt ar sawl rhaglen deledu, gan gynnwys eu sioe eu hunain.
Yna, pan ddaeth Traed Wadin i ben, penderfynodd Dylan ddechrau perfformio ar ei ben ei hun.
“Roedd cyfnod Traed Wadin yn rhai cyffrous dros ben,” meddai Dylan.
“Felly roedd hi’n benderfyniad mawr i mi i gario’n mlaen, ond mi wnes i fentro i berfformio fel unigolyn, a hyn am y tro cyntaf ers i mi adael y llynges.”
Yn y cyfnod yma, fe wnaeth ryddhau dwy albym ‘Am Wn i’ a ‘Country Rain’, y caneuon wedi ei cyfansoddi gan bobol fel Selwyn Griffiths, Morys Elfryn, a Glyn Roberts (neu Glyn Maer i bawb oedd yn ei adnabod).
Yn raddol daeth mab Dylan, Neil, gyda’i dad i gadw cwmni ar y lôn a chario a gosod yr offer canu. Weithiau fe fyddai Neil yn mynd ar y llwyfan i ganu ambell gân, a bob yn dipyn, sylweddolodd y ddau fod eu lleisiau yn plethu.
Yn 1994, a hwythau bellach yn ddeuwad, cawsant wahoddiad i recordio eu halbym gyntaf gan Gwmni Recordiau Sain. Teitl yr albym oedd ‘Heli’n Fy Nghwaed.’ Hon hefyd oedd prif drac ar yr albym a’r gân gyntaf i’r hogiau recordio, cân sy’n adrodd hanes cyfnod Dylan yn y llynges.
Ysgrifennwyd y geiriau gan Glyn Roberts, a wnaeth hefyd ysgrifennu Safwn Yn Y Bwlch i Hogia’r Wyddfa a Gafael yn Fy Llaw i John ac Alun.
Dywedodd Dylan: “Yn y blynyddoedd cynar roedd cwmni Sain yn trenfu nosweithiau canu gwlad blynyddol yn y theatr yn Llandudno.
“Roedd rhain yn nosweithiau tu hwnt o boblogaidd ac roedd hi bob amser yn bleser cael canu gyda band llawn a rhannu llwyfan hefo artistiad eraill fel Iona ac Andy, Broc Mor, John ac Alun a Dafydd Iwan.”
Ar ôl ychydig o flynyddoedd fe ymunodd cefnder Dylan o Lerpwl, Bob Galvin, gyda’r ddau.
“Roedd Bob yn gerddor proffesiynol ac ar un tro yn aelod or grwp ‘The Real Thing’ a bellach wedi symyd i fyw i’r Waunfawr,” meddai Dylan.
“Mi ddechreuodd o stiwdio recordio Gwynfryn Cymunedol, a sôn wrtha’i un tro ‘Pam nei di ddim ‘sgrifennu caneuon dy hun.’
“Doeddwn i ‘rioed wedi trio or blaen a dechreuais hel meddyliau wrth wrando ar dipyn o bobl hŷn Y Felinheli yn sôn am fel yr oedd hi, a gymaint mae’r pentref wedi newid dros y blynyddoedd.
“Mi gesh i ysbrydoliaeth yn eistedd ar lân yr Afon Fenai gan weld y cychod yn mynd heibio, a daeth cân at ei gilydd.
“Mi es i at Bob i rhoi alaw iddi, y gân hono oedd ‘Tafarn y Garddfon.’
“Wnaethon ni ‘rioed feddwl y basa hi yn mynd mor boblogaidd, ac ma’ hi’n dal i gael ei chanu ym mhob un o’n cyngherddau!”
Ond yna daeth cyfnod pryderus ar ddechrau’r ganrif a bu’n rhaid i’r ddeuwad gymryd saib am ddwy flynedd pan gafodd Neil ei daro’n wael gyda salwch difrifol.
Datblygodd gyflwr o’r enw Ulcerative Colitis a bu’n rhaid iddo dderbyn sawl llawdriniaeth yn Ysbyty Frenhinol Lerpwl.
Dywedodd Neil: “Tra ro’n i’n glaf yn yr Ysbyty roeddwn i’n gwrando llawer iawn ar Radio Ysbyty ac yn sylwi faint o gysur oedd cael gwrando ar y radio.
“Felly wedi gwella roeddwn i’n teimlo fy mod i isho her newydd a rhoi rhywbeth yn ôl ir gymuned, felly dyma’r ddau ohonan ni’n mynd ar gwrs hyfforddiant DJs.”
Dyma ddechrau cyfnod o wirfoddoli a chyflwyno eu rhaglen wythnosol ei hunain ar Radio Ysbyty Gwynedd ym Mangor am sawl blwyddyn.
Bu’r ddau hefyd yn trefnu trip am flynyddoedd i Westy Tony ac Aloma yn Blackpool – trip a ddaeth yn un o uchafbwyntiau bob blwyddyn.
Dywed Dylan: “Roedd o’n gymaint o hwyl – cael mynd a llond bws i Blackpool, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n yn dod o’r Felinheli.
“Tony ac Aloma yn canu ar y nôs Wener, ni yn canu ar y nôs Sadwrn, ac yna Tony ac Aloma yn ymuno hefo ni ar y llwyfan. Dyddiau da yn wir!”
Cyn ymddeol, roedd Dylan yn gweithio fel llinellwr trydan i gwmi National Grid, a daeth gwahoddiad i’r ddeuawd wneud rhaglen ddogfen i S4C o’r enw ‘O flaen dy lygaid,’ a buont yn ffilmio Dylan yn dringo peilons yn ystod y dydd ac yn canu gyda’r nôs hefo Neil.
Fe gafodd y rhaglen hefyd ei dewis i’w ddarlledu ar sianel BBC2 yn Saesneg, gydag enwogion canu gwlad fel Johnny Cash, Dolly Parton a Glen Campbell hefyd yn cymryd rhan.
Dywedodd Dylan: “Ro’n i yn ffan mawr o Glen Campbell – un o’i ganeuon mwyaf oedd y gân ‘Wichita Lineman’ oedd yn sôn am linellwr trydan.
“Roedd o yn yn digwydd bod ar daith yn y wlad yma a dyma fo yn gofyn: ‘Who is this real live linesman who works by day and sings by night?’
“Mi drefnodd Tony Coates o’r papur newydd, y Chronicle, i fi ei gyfarfod gefn llwyfan yn y theatr yn Llandudno.
“Dim yn aml mae rhywyn yn cael cyfarfod ei arwr a chael sgwrs gyda fo.”
“Rydw’i wedi cyfarod a sawl person enwog, rhai yn hunan-bwysig ond y rhan fwyaf yn bobol iawn, a ddaru Glen Campbell ddim fy siomi.”
Ac yn fwy diweddar fe wnaeth Dylan a Neil gyfarfod â merch Glen Campbell, Ashley Campbell, sydd wedi dilyn ei thad i fyd canu gwlad.
“Roedd hi’n perfformio yn y Cavern yn Lerpwl,” meddai Dylan: “ac fe ges i siaws i ddeud yr hanes i gyd wrthi.”
Mae’r ddeuawd hefyd wedi recordio dwy raglen deledu gyda’r gitarydd byd enwog, Albert Lee.
Dywed Dylan: “Roedd Albert Lee yn aelod o’r Hot Band sef grwp y gantores canu gwlad Emmylou Harris. Ac mae wedi chwarae gyda mawrion fel Eric Clapton, Vince Gill, Dolly Parton, Jerry Lee Lewis a Dylan a Neil!
“Y fo oedd yn gyfrifol am gyngerdd aduniad yr Everly Brothers nol yn 1983.”
Ac fel bod yr holl recordio, perfformio, a rhaglenni teledu ddim yn ddigon, mae Dylan hefyd wedi cyhoeddi ei hunangofiant, Môr o Ganu, yn 2006
Dywed: “Mae’n gyfrol sydd yn adrodd fy hanes yn mynd i ffwrdd i’r môr yn 15 oed drwy ymuno a chwmni’r Blue Funnel Line, ac treulio naw mlynedd yn teithio’r byd.
“Mae’n cofnodi colledion teuluol, heriau bywyd a fy nhaith gerddorol ar hyd y blynyddoedd. Fe fydd yn rhaid i chi brynnu’r llyfr i glywed yr hanes i gyd!”
Ac er gwaethaf treigl y blynyddoedd, does dim son fod y ddeuawd am roi’r ffidil, na’r gitar, yn y to eto.
“Rydym o hyd yn mwynhau perfformio mewn cyngherddau ar hyd a lled y wlad ac yn hynod o lwcus o gael Annette Bryn Parri yn cyfeilio i ni o dro i dro.
“Rydym yn cyfri’ ein hunnan yn lwcus iawn i fod o gwmpas ar yr adeg iawn a chael dweud ein bod wedi rhannu llwyfan gyda’r goreuon o Gymru megis Hogia’r Wyddfa, Hogia Llandygai, Tony ac Aloma, Trebor Edwards i enwi ond ychydig.
“Allai’m coelio lle mae’r amser wedi mynd,” meddai Dylan. “Dim ond gobeithio y gawn ni iechyd i gario’n mlaen tra fedra ni.”