Ras Gyfnewid Ynys Môn a Gwynedd

Digwyddiad elusennol cymunedol arbennig ym Mangor i godi arian tuag at ymladd canser

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Ras Gyfenwid Ynys Môn a Gwynedd

Dydd Sadwrn yma, y 22ain o Fehefin, bydd digwyddiad elusennol cymunedol arbennig i godi arian tuag at ymladd canser. Mae Ras Gyfnewid Ynys Môn a Gwynedd yn digwydd ar Drac Athletau Treborth, Prifysgol Bangor o hanner dydd am 24 awr. 

Bydd timoedd o ffrindiau a theuluoedd yn ymuno yn yr Ŵyl ar daith gyfnewid – gydag aelodau’r tîm yn cymryd eu tro i gerdded o amgylch y trac athletau am 24 awr.

Gall teuluoedd a ffrindiau dod draw i gefnogi hefyd, ac am £5 gallwch gael mynediad i gestyll neidio, zorbs, tatws glitter, paentio wynebau, peintio crochenwaith, stondinau a gemau, hufen ia, pizza, cerddoriaeth byw a chystadleuaeth gwisg ffansi. Hyn i gyd wrth gefnogi pawb sy’n cymryd rhan!

Goroeswyr canser yw gwestai anrhydeddus y digwyddiad elusennol, os ydych yn oroeswr canser ac eisiau cerdded y lap agoriadol bydd Ras Gyfnewid Ynys Môn a Gwynedd wrth eu boddau yn eich cael chi yno.

Bydd Dani o BangorFelin360 draw yno hefyd, dewch draw i’n gweld ni!

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma. I gofrestru, cliciwch yma.

Grŵp Facebook Ras Gyfnewid Ynys Môn a Gwynedd.