Mae’r Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi ymuno â’r alwad am fwy o wirfoddolwyr yn siop Tŷ Gobaith ym Mangor. Mae’r siop ar Stryd Fawr Bangor yn codi arian at yr elusen sy’n cynnig cymorth i blant a theuluoedd ar draws gogledd orllewin Cymru.
Aeth Siân Gwenllian draw i’r siop yn ddiweddar i siarad â staff a gwirfoddolwyr am yr heriau sy’n wynebu’r sector gwirfoddol, a dysgu mwy am eu hymgyrch am fwy o wirfoddolwyr.
Yn ôl Siân:
“Mae’r gwaith mae Tŷ Gobaith yn ei wneud i gefnogi plant a’u teuluoedd yn amhrisiadwy, a hynny er gwaethaf diffyg adnoddau. Ar hyn o bryd, dim ond 12% o’u costau gofal y maen nhw’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu eu bod nhw ddim ond yn gallu cyrraedd 10% o’r 3,655 o blant yng Nghymru sydd â chyflwr sy’n gwneud eu bywydau’n fyrach neu sy’n peryglu bywyd.
“Mae’r pwysau sydd ar yr elusen yn golygu bod y gwaith o godi arian hyd yn oed yn fwy pwysig, ac mae eu siopau, gan gynnwys yr un ym Mangor yn rhan allweddol o’r ymdrech honno.
“Mae llawer o elusennau a phrosiectau cymunedol yn nodi eu bod wedi colli nifer sylweddol o wirfoddolwyr ers y pandemig, a dydi Tŷ Gobaith ddim yn eithriad o ran hynny.
“Ac nid dim ond er mwyn codi arian mae’r siop yn bwysig. Mae hefyd yn bwynt cyswllt i’r elusen, yn lle i deuluoedd gael gwybodaeth a chyngor am eu gwaith.
“Dwi’n annog pobl leol sy’n gallu rhoi peth o’u hamser i gefnogi’r elusen hon i gyrraedd y plant y maen nhw’n cael trafferth eu cyrraedd ar hyn o bryd.”
Dylai’r sawl sydd â diddordeb gwirfoddoli alw i mewn i’r siop am sgwrs yn 306 Stryd Fawr, neu eu ffonio ar 01248 355 644.