Gobaith eto i CPD Y Felinheli

Buddugoliaeth cyntaf 2024 

gan Gwilym John

Cynghrair Ardal “Lock Stock” Gogledd Orllewin

Felin 4 Conwy 3

O’r diwedd, mae Felin wedi llwyddo i gipio tri phwynt yn y gynnghrair, y tro cyntaf ers canol Rhagfyr. Ond roedd hi yn agos! Gyda Felin 3-0 ar y blaen hanner amser, sgoriodd yr ymwelwyr un yn gynnar yn yr ail hanner. Yn fuan wedyn rhoddodd y reff benalti eitha annisgwyl (i hogia Conwy hyd yn oed) gyda Conwy yn sgorio a dod yn ol i’r gêm. A gyda 20 munud yn weddill, cafwyd penalti arall, hon yn hollol gyfiawn! 3-3 ac ymddangosai fod Felin wedi lluchio’r gêm.

Ond bedwar munud ar ol y 90, manteisiodd Iwan Edwards ar gamgymeriad, a phasio y bel i Iwan Bonc, ynta yn ffeindio cefn y rhwyd. Aeth Seilo yn wallgo!

Dweud eich dweud