Tŷ Gobaith yn derbyn rhodd o £20,000 gan grŵp eiddo lleol

Watkin Property Ventures (WPV) wedi rhoi £20,000 i Tŷ Gobaith fel rhan o’u cefnogaeth barhaus

gan Elliw Jones

Tŷ Gobaith yn derbyn rhodd o £20,000 gan grŵp eiddo lleol

Mae Watkin Property Ventures (WPV) wedi rhoi £20,000 i Tŷ Gobaith fel rhan o’u cefnogaeth barhaus i’r elusen. Bydd y rhodd yn cyfrannu at ymgyrch yr hosbis, sy’n ceisio gwella ansawdd bywyd plant sy’n dioddef â salwch terfynol.

Mae Tŷ Gobaith yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o bob rhan o’r gogledd sydd â chyflyrau sy’n bygwth bywyd, gan ddarparu gofal iddyn nhw a chymorth proffesiynol i’w teuluoedd. Gyda thîm wedi’i leoli ar draws y rhanbarth, roedd staff WPV yn awyddus i gymryd rhan yn yr ymgyrch a chyfrannu at achos mor arbennig.

Dywedodd Mark Watkin Jones, Prif Weithredwr WPV: “Rydym yn falch o fod yn cymryd rhan gyda’r elusen bwysig hon, sy’n cael effaith mor gadarnhaol ar blant lleol a’u teuluoedd. Gall wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl, ac rydym yn barod iawn i barhau efo’n cefnogaeth a bod yn rhan o’r gwaith codi arian.”

Fel rhan o’u hymdrechion, bydd Tŷ Gobaith yn cynnal marathon 36 awr i godi £400,000 yn ychwanegol tuag at yr ymgyrch, sy’n cynnwys digwyddiad byw yng Nghaer gyda rhai aelodau o staff WPV hefyd yn cymryd rhan.

Ychwanegodd Andy Everley o Tŷ Gobaith: “Mae angen i ni godi £400,000 yn ychwanegol fel y gallwn gynnig mwy o brofiadau sy’n dod a hwyl a hapusrwydd i bob plentyn. Rydym yn ddiolchgar iawn felly i Watkin Property Ventures am ymuno gydag arian cyfatebol. Heb hyn, ni fyddwn yn gallu gofalu am anghenion clinigol y plant, na chwaith yn gallu darparu gweithgareddau ychwanegol fel dyddiau allan a chwarae therapiwtig.

“Bydd ein ymgyrch yn dibynnu ar fuddsoddiad cychwynnol o £200,000 gan ein cefnogwyr mwyaf hael, fel Watkin Property Ventures, er mwyn creu pot cyfatebol o arian fydd gobeithio yn annog y gymuned ehangach i roi yn ystod yr ymgyrch 36 awr.”

Mae WPV yn falch o gefnogi Tŷ Gobaith ers 2021. Mae mwy o wybodaeth am farathon codi arian 36 awr Tŷ Gobaith yn Quality Moments Matter 

Dweud eich dweud