Mae Catrin Wager, ymgeisydd Plaid Cymru dros sedd Bangor Aberconwy wedi ysgrifennu llythyr agored i fanc Barclays yn dwyn pwysau arnynt i ail-ystyried eu penderfyniad i gau’r gangen ar Stryd Fawr Bangor ar 10 Mai 2024.
Mae Catrin, a fu’n gynghorydd ym Mangor Uchaf, yn gwahodd trigolion sy’n pryderu ynghylch y penderfyniad i arwyddo’r llythyr.
Mae Catrin wedi ymuno â Chris Jere, perchennog sawl busnes yn y ddinas i ymgyrchu yn erbyn cau’r gangen. Mae Chris wedi bod yn bancio gyda Barclays ers dros 10 mlynedd.
Mae copi o’r llythyr i’w weld isod. Er mwyn ei arwyddo, dilynwch y ddolen hon.
Annwyl Barclays,
Mae’r sawl sydd wedi llofnodi isod yn ysgrifennu i fynegi ein pryder ynghylch cau cangen Bangor, Gwynedd.
Mae’n adnodd hanfodol i lawer, nid yn unig ym Mangor, ond mewn ardal ddaearyddol eang ac mae trigolion, busnesau lleol, masnachwyr a myfyrwyr lleol a rhyngwladol yn dibynnu ar yr adnodd. Mae’n achubiaeth i’r rhai sydd angen gweithio gydag arian parod, y rhai na allant gael mynediad at wasanaethau ar-lein, a’r rhai sydd angen cymorth wyneb-yn-wyneb.
Ers i ganghennau Barclays gau yn Llangefni, Caernarfon a Phorthmadog, mae cangen Bangor wedi gwasanaethu ardal eang, a dyma’r unig gangen stryd fawr ar ôl yng Ngwynedd a Môn. Bydd colli’r gangen hon yn golygu nid yn unig y bydd trigolion Bangor yn wynebu taith o 40 milltir i gael mynediad at wasanaethau cangen, ond bydd y rhai ar Ynys Môn neu orllewin Gwynedd yn wynebu taith llawer hirach.
Rydym yn pwyso arnoch i chi ailystyried y penderfyniad hwn, a chadw cangen Bangor, Gwynedd, ar agor.